Mae 258 o achosion coronafeirws newydd wedi’u cofnodi yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yn ôl ffigurau heddiw, (dydd Iau, 16 Medi).

Dangosa data Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 156 o achosion newydd yn Sir Gaerfyrddin, 59 yn Sir Benfro a 43 yng Ngheredigion ers yr adroddiad diwethaf.

Mae cyfanswm yr achosion ar draws y tair sir bellach yn 26,630 – 16,421 yn Sir Gaerfyrddin, 6,679 yn Sir Benfro a 3,530 yng Ngheredigion.

Mae un farwolaeth newydd sy’n gysylltiedig â Covid-19 wedi’i chofnodi yn ardal Hywel Dda ers yr adroddiad diwethaf, gyda’r cyfanswm yn cyrraedd 502 drwy gydol y pandemig.

Yn y cyfamser, mae cyfanswm o 2,891 o achosion newydd o coronafeirws wedi’u cofnodi ledled Cymru heddiw gan ddod â’r cyfanswm cenedlaethol i 317,481 o achosion.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 26,085 o brofion wedi’u gwneud ar draws y wlad ers yr adroddiad diwethaf.

Cafodd pedwar marwolaeth newydd eu cofnodi yng Nghymru, gyda’r cyfanswm ar draws Cymru bellach yn 5,774 o farwolaethau.

Ledled Cymru, mae 2,369,721 wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn Covid-19 ac mae 2,205,101 wedi’u brechu’n llawn.

Yn Hywel Dda ar 1 Medi, mae 558,694 dos cyntaf ac ail ddos wedi’u gweinyddu, 4,515 yn y saith diwrnod diwethaf.

Yn Sir Gaerfyrddin mae 134,486 dos cyntaf wedi eu rhoi (71.2%) a 124,083 ail ddos (65.7%).

Yng Ngheredigion mae 53,169 dos cyntaf bellach wedi’u rhoi (73.1%) a 49,555 ail ddos (68.2%).