Mae Cyngor Ceredigion yn galw am bartneriaid newydd i sicrhau cynlluniau ar gyfer tai a chanolfan iechyd integredig yn Nhregaron.

Daw hyn ar ôl i’r partneriaid datblygu blaenorol, Barcud, dynnu allan o brosiect cydweithredol Cylch Caron.

Bydd y datblygiad yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinig i gleifion allanol, cyfleusterau nyrsio a gofal cymdeithasol, a thai gofal ychwanegol.

Mae hynny’n rhan o “fodel integredig ar gyfer tai a gofal cymdeithasol” sydd am gymryd lle Ysbyty Tregaron a chartref gofal Bryntirion.

Fis nesaf, bydd digwyddiad i ddangos diddordeb yn cael ei gynnal cyn i’r broses tendro gael ei lansio’n swyddogol.

Cynlluniau Cylch Caron

Cyfarfod pwyllgor

Fe wnaeth pwyllgor craffu Cyngor Ceredigion gyfarfod heddiw (15 Medi) i drafod y cynlluniau.

Yn ystod y cyfarfod, dywedodd arweinydd y prosiect Peter Skitt bod yna “ddim bwriad i arafu na stopio” a bod y “prosiect yn mynd yn ei flaen” er gwaetha’r oedi.

Fe ofynnodd y Cynghorydd Elizabeth Evans os oedd posib y bydd elfennau o’r cynllun, fel y tai, yn cael eu hepgor, ac fe ymatebodd Peter Skitt bod y prosiect yn “gytundeb cyfannol” ac y byddai’n “amharod i fynd ymlaen gyda holltau.”

Roedd yn benderfynol bod y tai yn rhan bwysig o’r prosiect o ran y “cyd-ddibyniaeth” â’r elfennau iechyd.

Ychwanegodd cadeirydd y pwyllgor, Rowland Rees-Evans bod y “cynlluniau wedi bod ar y bwrdd ers tro,” a’i bod hi’n “siomedig y bod pethau fel maen nhw.”