Cafodd trenau rheilffordd Llangollen eu fandaleiddio yn oriau man fore ddoe (dydd Mercher, Awst 25).
Fe gafodd dau gerbyd trên disel eu chwistrellu gyda phaent graffiti amryliw, gydag ambell air wedi’i lofnodi.
Yn ôl gweithredwyr y rheilffordd, mae’r difrod yn debygol o gostio miloedd o bunnoedd i’w glirio.
Mae’r trenau treftadaeth yn rhedeg ers 1975, gyda gwaith adnewyddu wedi’i gwblhau yn 2014 i ymestyn y rheilffordd i Gorwen.
Fe ailagorodd y rheilffordd ym mis Gorffennaf eleni am y tro cyntaf ers Medi y llynedd oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, ac maen nhw’n “ddigalon” bod hyn wedi digwydd mor fuan ar ôl hynny.
Mae swyddogion yr heddlu yn ymwybodol o’r digwyddiad, ac yn ymchwilio i’r sawl oedd yn gyfrifol.
“Am 10.25yb ddoe, cawsom ein hysbysu am ddifrod troseddol i ddau drên DMU (uned luosog ddisel) ar Reilffordd Llangollen, sydd wedi’u chwistrellu â graffiti,” meddai’r heddlu.
“Rydym yn ymchwilio’r digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, i gysylltu â swyddogion ar 101, neu drwy’r wefan, gan ddyfynnu cyfeirnod 21000591841.”