Mae dyn o Sir Gâr wedi cael ei ganfod yn euog o esgeuluso ceffylau.

Roedd gan David Robert Davies o Bentre-cwrt ger Llandysul waharddiad eisoes sydd yn ei rwystro rhag cadw ceffylau yn dilyn erlyniad gan yr RSPCA yn 2015.

Fe ddaeth swyddog lles anifeiliaid Cyngor Sir Gâr o hyd i ddwy ferlen yn cael eu cadw mewn tywyllwch ac roedd gwelyau’r stablau wedi eu baeddu’n sylweddol.

Roedd Davies wedi gadael i’r merlod ddioddef cymaint o boen i’r fath raddau nes bod rhaid eu difa.

Dywedodd y milfeddyg oedd yn trin y ceffylau mai dyma oedd yr achos gwaethaf o esgeulustod iddo’i weld mewn 40 mlynedd o ymarfer.

Achos llys

Er nad oedd Davies yn berchen ar y ceffylau, fe wnaeth e gyfaddef yn Llys Ynadon Llanelli ei fod yn llwyr ymwybodol o’u cyflwr, gan bledio’n euog i’r cyhuddiadau.

Mae e bellach wedi cael dedfryd o 12 wythnos yn y ddalfa, wedi’i ohirio am 24 mis, yn ogystal â gorchymyn cymunedol o 12 mis, sy’n cynnwys 250 awr o waith di-dâl.

Ar ben hynny, mae e wedi cael gorchymyn i dalu dirwy o £6,367 am y troseddau.

“Oni bai am weithredoedd ein swyddog iechyd anifeiliaid, a ddilynodd ei greddf a mynd ati i edrych yn y sied, efallai y byddai’r merlod hyn yn dal i ddioddef heddiw,” meddai’r Cynghorydd Philip Hughes ar ôl y gollfarn.

“Mae hwn yn achos ofnadwy o esgeulustod brawychus, y gellir bod wedi’i osgoi.”