Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo ymgais i symud organ hanesyddol o Fangor i Gaerwysg yn Lloegr.

Mae’r offeryn wedi ei lleoli yn Eglwys Dewi Sant yng Nglanadda, sydd wedi cau ei drysau ers 2014.

I atal yr organ, a gafodd ei adeiladu ym 1906, rhag cael ei esgeuluso, mae hi am gael ei ail-adeiladu mewn eglwys yng Nghaerwysg yn Nyfnaint.

Fe wnaeth adran gynllunio Cyngor Gwynedd, yn ogystal â Chyngor Dinas Bangor, groesawu’r cais heb wrthwynebiad.

‘Unig opsiwn’ i’w amddiffyn

Yn y ddogfen a gafodd ei gyflwyno i’r Cyngor, fe gafodd ei nodi mai’r “organ yw’r darn olaf” o du mewn yr eglwys sydd heb ei symud.

“Mae’r eglwys wedi bod heb wres ers rhai blynyddoedd,” meddai’r ddogfen.

“Er na fydd yr organ yn dioddef unrhyw ddifrod strwythurol (oni bai bod adeiladwaith yr eglwys o’i chwmpas yn dirywio), bydd cyfuniad o amodau llaith a diffyg defnydd yn gwneud hi’n amhosib ei chwarae.

“Dydy hyn ddim i ddweud nad oes modd ei adnewyddu, dim ond ei bod hi mewn amgylchedd gwael, a’i symud yw’r unig opsiwn ar gyfer ei amddiffyn.

“Mae ansawdd y crefftwaith yn yr organ yn ddiamheuol, ac, er nad yw’n fawr, mae sain yr organ yn nodweddiadol.”