Mae dyn o Aberystwyth wedi’i hedfan i’r ysbyty wedi iddo ddisgyn o ffenestr adeilad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar Ffordd y Gogledd am 10:45 bore ‘ma (dydd Mawrth, 10 Awst).
Cafodd y dyn – oedd ag “anafiadau trawmatig” – ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd mewn hofrennydd.
“Fe gawson ni ein galw am 10:47 bore ’ma yn dilyn adroddiadau o berson ag anafiadau trawmatig yn ardal Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth,” meddai Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn datganiad.
Cyflym
“Fe wnaethon ni anfon Ambiwlans Awyr Cymru, un cerbyd ymateb cyflym ac un criw ambiwlans brys i’r lleoliad.
“Cafodd person ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i gael triniaeth bellach.”
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: “Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am o gwmpas 10:45 bore ’ma i adroddiad bod dyn wedi disgyn o ffenest adeilad ar Ffordd y Gogledd, Aberystwyth.
“Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty.
“Cafodd y ffordd ei chau ond agorodd drachefn am 12:55.”