Mae tri gwyliwr y glannau o Geredigion wedi derbyn gwobr dewrder am achub dyn a’i fab 10 oed.
Oherwydd eu gweithredoedd eofn, bydd Sam Bailey, Lowri Davies a Macsen Mather yn derbyn gwobr Alison Saunders, sy’n cael ei wobrwyo’n flynyddol i achubwyr bywydau medrus.
Gyda chymorth bad achub RNLI Aberteifi a Chei Newydd, fe wnaeth y tri fentro i achub y ddau unigolyn oedd wedi bod yn caiacio ar hyd yr arfordir.
‘Ymdrech tîm wych’
Fis Medi llynedd, fe gafodd y caiacwyr eu dal mewn gwyntoedd cryfion a’u hysgubo 800 medr o’r lan.
Roedd yn rhaid i Sam Bailey a Macsen Mather nofio i mewn i’r dŵr yn Nhresaith er mwyn achub y dynion mewn amodau anodd, cyn i Lowri Davies drefnu bad achub i ddod o Aberteifi a Chei Newydd i roi cymorth iddyn nhw.
Erbyn i’r cychod gyrraedd, roedden nhw wedi drifftio dros un filltir a hanner i’r môr, cyn cael sylw meddygol wrth y lan.
“Roedd yr ymdrech hon i achub y ddau berson yn ymdrech tîm wych, gyda chriwiau bad achub RNLI yn llwyddo i gefnogi eu cydweithwyr,” meddai Roger Smith, Rheolwr Achub Bywyd Ardal RNLI.
“Rydyn ni’n hynod falch o’r achubwyr bywyd, a ddangosodd ddewrder a phenderfyniad mawr yn ystod yr ymdrech hon.
“Aethon nhw i mewn i’r dŵr i achub bywydau, gan wybod yn iawn fydden nhw ddim wedi gallu dychwelyd i’r lan heb gymorth, a gan ymddiried yn y badau achub i’w cefnogi.
“Mae’r gwobrau’n cydnabod eu dewrder a’u proffesiynoldeb wrth weithio ar y cyd.
“Gan weithio gyda’i gilydd, llwyddodd y tîm i arbed dau berson rhag boddi’r diwrnod hwnnw.”