Bydd peilot y gwasanaeth bws Traws Cymru newydd rhwng Bangor a Chorwen yn darparu ffordd fwy cynaliadwy o deithio ym Mharc Cenedlaethol Eryri a’r cyffiniau, yn ol y prif weithredwr.

Dros y deuddeg mis nesaf, bydd y gwasanaeth T10, sy’n cael ei ariannu gan Drafnidiaeth Cymru, yn teithio rhwng Bangor a Chorwen gan alw yn yr holl arhosfanau ar y ffordd.

Cafodd y gwasanaeth, sy’n cael ei redeg gan K&P Coaches a Llew Jones, ei lansio ddydd Sadwrn (31 Gorffennaf), ac i ddathlu’r lansiad bydd y teithiau am ddim am y bythefnos gyntaf i annog pobol i weld buddion teithio ar fws.

Ni fydd teithwyr yn gallu gwneud teithiau lleol rhwng Bangor a Bethesda am yr wythnos gyntaf sydd am ddim. Bydd rhaid talu o 8 Awst ymlaen.

Bydd cysylltiadau â’r gwasanaeth T3 yng Nghorwen yn caniatáu i deithwyr barhau â’u taith ymlaen i Langollen a Wrecsam, gyda’r gwasanaeth T10 yn rhedeg yn ddyddiol.

Y gobaith yw y bydd yn annog preswylwyr a thwristiaid i adael eu ceir a mynd ar y bws i ymweld â chyrchfannau gwledig poblogaidd fel Betws y Coed, Llyn Ogwen a Chapel Curig.

Fe fydd teithwyr yn gallu defnyddio’r tocyn diwrnod 1Bws newydd ar y gwasanaeth hwn, sy’n golygu fod posib i bobol deithio ledled y gogledd drwy’r dydd am £5.70.

“Cefnogi cymunedau”

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau’r cyllid ar gyfer y gwasanaeth bws newydd hwn, sydd nid yn unig yn darparu dull cludo mwy cynaliadwy, ond mae hefyd yn rhan o’r cynlluniau trafnidiaeth integredig ehangach rydym yn ceisio eu hadeiladu yma yng Ngogledd Cymru, fel rhan o’r Rhaglen Metro Gogledd Cymru,” meddai Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Canolbarth, Gogledd a Chymru Wledig.

“Mae’n wych gweld y cysylltiadau trafnidiaeth rydyn ni’n gallu dod i ardaloedd mwy gwledig gogledd Cymru a chefnogi ein cymunedau trwy aros yn gysylltiedig. Hoffem ddiolch i Gyngor Sir Dinbych am dendro’r gwasanaeth hwn ar ein rhan.”

“Pontio bwlch”

Yn ôl y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Wastraff, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych, mae’r gwasanaeth yn “pontio bwlch sylweddol yn y rhwydwaith bysiau”.

“Mae’r T10 yn bwysig wrth bontio bwlch sylweddol yn y rhwydwaith bysiau presennol trwy ganiatáu i drigolion ac ymwelwyr wneud rhywbeth na allant ar hyn o bryd,” meddai Brian Jones.

“Gyda chyflwyniad y tocyn holl-weithredwr newydd ‘1bws’ ym mis Gorffennaf 2021, mae hyn wir yn agor cyfleoedd teithio cynaliadwy i ac o Dde Sir Ddinbych a Dyffryn Dyfrdwy mewn ffordd nad ydym wedi’i mwynhau o’r blaen.”

“Gwella mynediad”

Mae’n fwriad i’r gwasanaeth bws wella rôl Betws y Coed fel canolbwynt trafnidiaeth hefyd.

“Bydd y llwybr newydd hwn yn gwella mynediad trafnidiaeth gyhoeddus i dde’r Sir ac yn cysylltu nifer o ganolfannau cyflogaeth allweddol sydd ddim yn cael eu gwasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd,” ychwanegodd y Cynghorydd Philip Evans, hyrwyddwr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cyngor Conwy.

“Bydd hefyd yn gwella rôl Betws y Coed fel canolbwynt trafnidiaeth, gan ddarparu cysylltiad â’r system reilffordd.”

“Cynnig opsiynau”

Yn ôl y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer yr Amgylchedd, mae’r Cyngor am sicrhau bod opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy a fforddiadwy i bobol leol ac ymwelwyr allu mwynhau awyr agored Gwynedd.

“Rydym yn falch iawn o weld y datblygiad pwysig hwn a fydd yn cynnig opsiynau ychwanegol i bobl sy’n dymuno teithio yn yr ardal hon – i bobl leol a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal sy’n dymuno gadael y car gartref,” meddai’r Cynghorydd Gareth Griffith.

“Bydd y gwasanaeth T10 newydd yn cynnig cyswllt trafnidiaeth o amgylch odre’r Wyddfa, gan gysylltu o orsaf reilffordd Bangor, â Llyn Ogwen, Betws y Coed a thu hwnt.”

“Teithio mwy cynaliadwy”

Mae problemau gyda pharcio anghyfreithlon ac anghyfrifol wedi bod yn broblem mewn rhannau o’r Parc Cenedlaethol yn ddiweddar, ac mae’r gwasanaeth yn ffordd o ddarparu profiad teithio mwy cynaliadwy a hamddenol, meddai prif weithredwr y Parc.

“Bydd y gwasanaeth bws newydd hwn yn darparu profiad teithio mwy cynaliadwy a hamddenol o amgylch Eryri yn enwedig yn ystod y tymor brig,” meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Mae manteision mawr i ddefnyddio math mwy cynaliadwy o drafnidiaeth er enghraifft, lleihau ôl troed carbon, ac felly yn lleihau ein heffaith ar gynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd.

“Gall hefyd fod yn gyfle i wella profiad eich ymweliad trwy eich galluogi i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd heb straen ychwanegol traffig a pharcio.”