Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith Bro360 yn yr wythnos ddiwethaf…
Diwrnod agored canolfan gelfyddydol newydd Bangor
Agorodd Nyth, canolfan gelfyddydau newydd yn hen Eglwys Santes Fair ym Mangor, ei drysau i’r cyhoedd wythnos ddiwethaf. Nyth fydd pencadlys diweddaraf Cwmni Frân Wen, cwmni theatr “gyffrous, heriol ac ysbrydoledig i bobl ifanc”.
Agorwyd y drysau er mwyn rhoi’r cyfle i’r cyhoedd weld cynlluniau ar gyfer y ganolfan newydd – sy’n cynnwys gofod perfformio ac ymarfer, stiwdio, swyddfeydd a gofodau cymunedol hyblyg.
May o fanylion ar BangorFelin360.
Blas o’r Bröydd
Cerddoriaeth fyw!
Mae wedi bod yn rhy hir es cael cyfleodd i wrando ar gerddoriaeth fyw yn dydy?! Ond, daeth casgliad gwych o fandiau Cymru i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, i chwarae o flaen tyrfa o bobl unwaith eto, yn rhan o ddigwyddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol.
Niferoedd cyfyngedig o docynnau oedd ar gael ond roedd awyrgylch braf iawn yno, ac yn ôl Enfys Medi, sy’n rhannu lluniau’r digwyddiad ar BroAber360, “pwy feddylie y bydden ni mor werthfawrogol o gael eistedd o amgylch bwrdd picnic yng nghanol pobl?!”
Teyrngedau i athro ysbrydoledig
O ddarllen Clonc360 dros y penwythnos, byddwch yn dechrau deall yr effaith a gafodd un athro o Gwmann a fu farw’n ddiweddar. Mae llu o gyn-ddisgyblion yn hael eu teyrngedau i gyn-bennaeth Adran Saesneg Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan, Rhys Williams.
“Newyddion trist iawn – athro arbennig iawn, yn llawn ysbrydoliaeth ac wedi fy nysgu fwy nag unwaith yn eistedd ar ben y cabinet ffeilio yn ystafell 13!” – Mae geiriau Tegwen Morris ymhlith nifer o atgofion melys o athro unigryw, wnaeth adael ar farc ar bobol fel Gary Slaymaker ac Elin Jones AoS. Mwy ar Clonc360.
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Teyrngedau i athro ysbrydoledig, gan Dylan Lewis ar Clonc360
- £200,000 tuag at adnewyddu Canolfan Cefnfaes, gan Carwyn Meredydd ar Ogwen360
- Hanes Capel Bethel, Aberystwyth, ar BroAber360