Mae’r gwaith o adfywio’r Cei Llechi yng Nghaernarfon wedi dod i ben ar ôl chwe blynedd o gynllunio ac adeiladu.

Bydd y safle amlbwrpas yn gyfuniad o hen adeiladau a rhai newydd ar gyfer unedau gwaith, crefft a manwerthu, yn ogystal â llety ac ystafelloedd cyfarfod.

Mae’r prosiect gwerth £5.8m yn gyfuniad o arian gan y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Cadw a Chyngor Gwynedd, yn ogystal ag arian gan berchnogion y safle Ymddiriedolaeth yr Harbwr.

Roedd yr arian hynny’n rhan o gyllid ehangach gan brosiect adfywio Glannau Caernarfon, sydd hefyd wedi gweld datblygiadau i ganolfan gelfyddydau’r Galeri a gorsaf drenau Caernarfon.

‘Dyfodol newydd’

Roedd perchnogion y safle, Ymddiriedolaeth yr Harbwr, wedi cydweithio â Galeri Caernarfon, a gymerodd yr awenau wrth reoli’r prosiect.

Mae Ioan Thomas, cadeirydd Ymddiriedolaeth yr Harbwr, wedi mynegi boddhad o weld yr holl waith wedi ei gwblhau.

“Roedd y mwyafrif o’r adeiladau ar y safle mewn cyflwr gwael iawn, ac fel perchnogion, roedd yn destun embaras i’r Ymddiriedolaeth gan ei fod mor agos i Gastell Caernarfon, Safle Treftadaeth y Byd,” meddai.

“Fe wnaethom drin a thrafod sawl opsiwn dros y blynyddoedd ac roedd yn bwysig i ni fod yn gallu dod a bywyd ’nôl i’r safle gan hefyd ddathlu hanes Cei Llechi a chysylltiad Caernarfon gyda’r byd.

“Roeddem yn ymwybodol bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau i adfywio a rhoi bywyd newydd i adeiladau hanesyddol, a thrwy hynny gynnig cyfleoedd, pwrpas a dyfodol newydd iddynt.

“Mae ein dyled yn fawr i’r holl arianwyr, heb y pecyn cyllido, ni fyddai’r prosiect wedi gallu gweithio.

“Bellach mae’r datblygiad wedi ei gwblhau a bydd Cei Llechi yn cyfrannu tuag at ddatblygu busnes, creu swyddi, yn ogystal â bod yn atyniad ychwanegol ar lannau’r dref y gall ein cymuned leol ac ymwelwyr ei fwynhau.”

Gwaith adeiladu ar safle’r Cei Llechi yn Awst 2019.

‘Heriol am sawl rheswm’

Mae Gwyn Roberts, Prif Weithredwr y Galeri, wedi bod yn sôn am y rhwystrau oedd yn eu hwynebu nhw wrth gydlynu’r gwaith.

Mae cwblhau’r prosiect wedi bod yn un heriol am sawl rheswm,” meddai.

“Fel safle sydd yn hanesyddol bwysig, achub ac adfywio cymaint â phosib o’r hen adeiladau oedd ein blaenoriaeth.

“Roedd y dasg o blethu’r adeiladwaith newydd o gwmpas yr adeiladau hanesyddol yn sialens rydym yn teimlo ein bod wedi llwyddo rhwng y tîm dylunio, ni fel cleient a’r contractwyr.

“Mae Covid hefyd yn amlwg wedi amharu ar y rhaglen ac amserlen adeiladu, ac yn bendant mae’r ansicrwydd economaidd yn ei sgil wedi cael effaith ar ymholiadau.

“Er hynny, rydym yn hapus yn gallu cyhoeddi bod oddeutu 40% o’r 19 uned wedi’u cymryd.

“Rydym yn parhau i farchnata gweddill yr unedau ac yn awyddus i glywed gan wneuthurwyr hoffai sefydlu lawr yn Cei Llechi.”

Dros y misoedd nesaf, bydd unedau’r Cei Llechi yn llenwi wrth i denantiaid a gwahanol fusnesau ymgartrefu yno.