Fe wnaeth tân yn adeilad BT ym Mangor neithiwr (29 Gorffennaf) adael cartrefi heb gysylltiad band eang a chysylltiad ffôn.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i’r digwyddiad yn adeilad British Telecom ar Ffordd Garth ym Mangor am 5:40 neithiwr.

Mae’r cwmni wedi cadarnhau fod yr holl wasanaethau ffôn a band eang bellach wedi’u hailgysylltu.

Dywedodd BT nad oes neb wedi brifo, a bod “mwyafrif helaeth” gwasanaethau band eang heb gael eu heffeithio.

Er hynny, cafodd rhai cartrefi mewn rhannau o’r gogledd anawsterau wrth ddefnyddio ffôn tŷ a’r rhyngrwyd, ac roedd adroddiadau fod gwasanaethau wedi’u heffeithio yng Ngwynedd a Sir Fôn o ganlyniad i’r tân.

“Fe gychwynnodd tân neithiwr yn ein hadeilad ym Mangor a gafodd ei ddiffodd yn gyflym gan y gwasanaeth tân. Diolch byth, ni anafwyd neb,” meddai llefarydd ar ran Grŵp BT.

“Mae’r holl wasanaethau ffôn a band eang bellach wedi’u hail-gysylltu.”

“Blaenoriaethu”

Yn y cyfamser, roedd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru’n dweud wrth bobol oedd methu gwneud galwadau o’r ffôn tŷ i ddefnyddio ffôn symudol er mwyn ffonio’r gwasanaethau brys.

Wrth ymateb ar Twitter neithiwr, dywedodd cwmni TalkTalk eu bod nhw’n “ymwybodol” o’r broblem.

“Rydyn ni’n ymwybodol fod rhai o’n cwsmeriaid sydd wedi’u cysylltu â’r gyfnewidfa ym Mangor a’r ardaloedd cyfagos wedi colli gwasanaethau ar hyn o bryd,” meddai’r cwmni.

“Mae ein peirianwyr yn gweithio er mwyn blaenoriaethu adfer y gwasanaethau, ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.”