Mae rhybudd o’r newydd i bobol barchu rheolau parcio a chadw cymunedau Gwynedd yn ddiogel.

Unwaith eto eleni, mae Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio i fynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â pharcio anghyfreithlon ac anghyfrifol.

Gyda niferoedd digynsail o bobol yn ymweld â Gwynedd, mae parcio anghyfrifol mewn rhai rhannau o’r sir yn destun pryder.

Cododd problemau parcio yn Llanberis eto dros y penwythnos diwethaf, ac mae parcio anghyfreithlon wedi bod yn broblem gyson ym Mhen-y-Pas a Llyn Ogwen hefyd.

Mae swyddogion wedi bod yn targedu’r lleoliadau yma i gadw’r ardaloedd yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffordd, ac mae arwyddion wedi’u gosod mewn sawl man i rybuddio gyrwyr fod cerbydau’r rhai sy’n torri rheolau’n debygol o gael eu cludo oddi yno gan yr heddlu.

“Hollol annerbyniol”

Mae’r Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, yn gofyn i bobol gynllunio o flaen llaw, gan ddweud ei bod hi’n “hollol annerbyniol” fod ceir sy’n parcio mewn llefydd anaddas yn peryglu’r ffordd i eraill.

“Gyda thywydd anhygoel ar ddechrau gwyliau’r haf a chyfyngiadau yn golygu fod pobl ddim yn cael teithio dramor, mae nifer o gymunedau Gwynedd yn gweld niferoedd uchel o ymwelwyr ar hyn o bryd,” meddai’r Cynghorydd Gareth Griffith.

“Rydan ni’n cydweithio efo’n partneriaid i annog modurwyr i ddefnyddio synnwyr cyffredin pan fyddan nhw’n ymweld â Gwynedd er mwyn cadw’r ardal yn ddiogel i bawb.

“Gofynnwn i bobol i gynllunio eu taith o flaen llaw, defnyddio’r gwasanaethau bws fel y Sherpa os byddwch yn bwriadu mynd i gerdded y mynyddoedd, ac os ydi maes parcio yn llawn iddynt chwilio am leoliad arall addas,” ychwanegodd.

“Mae rhai enghreifftiau wedi bod yr haf yma o bobl yn parcio mewn modd anaddas, sy’n peryglu’r ffordd i yrwyr eraill, beicwyr a cherddwyr ac yn achosi problemau mynediad difrifol i gerbydau’r gwasanaethau brys, gan gynnwys gwirfoddolwyr achub mynydd. Mae hynny’n hollol annerbyniol.

“Mae ein neges yn syml sef mwynhau’r ardal ond dilynwch y rheolau, maent yno i gadw pawb yn saff. Os byddwch yn anwybyddu’r rheolau, mae’n debyg iawn y byddwch yn wynebu dirwy neu mae’n bosib y bydd eich cerbyd yn cael ei gludo oddi yno gan yr awdurdodau.”

“Peryglu bywydau”

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yng Nghyngor Gwynedd a’r Parc Cenedlaethol i helpu i leihau’r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr eraill y ffordd,” meddai’r Uwch-arolygydd Neil Thomas, Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus rydym eisoes wedi’i weld mewn rhai ardaloedd nid yn unig yn peryglu bywydau ond mae hefyd yn atal mynediad i gerbydau brys.

“Tra ein bod yn gwerthfawrogi bod pobol yn mynd allan mwy er mwyn mwynhau’r tywydd a’r golygfeydd, rydym yn annog pobl i fod yn gyfrifol a meddwl ble maen nhw’n parcio ac i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael.

“Bydd cerbyd unrhyw un sydd wedi parcio ar y glirffordd neu yn achosi rhwystr yn cael ei symud ar draul ei hunain. Cymrwch sylw o’r rhybudd os gwelwch yn dda.”

“Angen gweithredu ar frys” i helpu’r sefyllfa twristiaeth yn Llanberis, medd Siân Gwenllian

Gwern ab Arwel

Mae’r AoS dros Arfon wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd i fynegi pryderon lleol