Mae Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried gwahardd cŵn o 18 o draethau’r sir wrth iddyn nhw gyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 27).

Bydd y gwaharddiadau mewn grym rhwng Ebrill 1 a Medi 30 bob blwyddyn.

Mae cyfyngiadau eisoes mewn rhannau eang o’r traethau dan sylw ond yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, mae angen i’r Cabinet drafod diwygio’r cynlluniau presennol.

Fel rhan o’r un mesur, bydd y Cyngor yn cyflwyno ‘Ardaloedd Eithrio Cŵn’ mewn nifer o barciau, meysydd chwarae ysgolion a chyfleusterau chwaraeon.

Yn ogystal â hynny, mae’r mesur am dynhau ar reolau cadw cŵn ar dennyn ac ar gŵn yn baeddu.

Derbyniodd Cyngor Gwynedd dros 1,300 o ymatebion yn yr ymgynghoriad, a fydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod.

Ymateb i’r ymgynghoriad

Mae’r Cynghorydd Catrin Wager wedi croesawu’r holl ymatebion, gan nodi bod galw pendant am reoleiddio cŵn ymhellach.

“Roedd mwyafrif helaeth yr ymatebion o blaid parhau â chamau gorfodi pan fydd perchnogion cŵn yn peidio â glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes,” meddai’r Cynghorydd dros ward Menai ym Mangor.

“Roedd pobol hefyd yn awyddus i weld cŵn yn cael eu heithrio o leoedd megis tiroedd ysgolion, caeau chwarae, cyfleusterau chwaraeon yn ogystal â chyfyngiadau tymhorol ar rai o’n traethau.

“Mae’r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifri ac yn sicrhau eu bod yn glanhau ar eu hôl.

“Ond rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn wir am bawb ac mae’r sylwadau a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn tanlinellu bod hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i’r Cyngor barhau i fynd i’r afael ag ef.

“Mae’r holl sylwadau a gawsom wedi cael eu hystyried yn fanwl a byddwn yn ceisio cyflwyno mwy o finiau, gyda dosbarthwyr bagiau, fel yr awgrymwyd fel rhan o’r ymgynghoriad, ynghyd ag arwyddion wedi’u diweddaru.”

Mynd i’r afael â baeddu cŵn

Mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i benodi dau warden sy’n gyfrifol am reoli achosion sy’n ymwneud â chŵn yn baeddu.

“Rydym hefyd yn gobeithio cyflwyno dau warden rheoli cŵn newydd a fydd â phwerau gorfodaeth, ond a fydd hefyd yn gweithio ar ymgyrchoedd newid ymddygiad i geisio lleihau achosion baeddu yn y sir,” meddai Catrin Wager.

“Roedd y cyhoedd yn glir eu bod yn awyddus i ni gynyddu ymdrechion i fynd i’r afael â baeddu cŵn, ac rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae ein preswylwyr wedi’i ddweud.

“Pe bai’r cabinet yn cefnogi cyflwyno’r mesurau hyn, rwy’n gobeithio y byddant yn arwain at ostyngiad mewn baeddu cŵn ar ein strydoedd, ac yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cyfyngiadau cŵn a chaniatáu i berchnogion cŵn gael lle a rhyddid i ymarfer eu hanifeiliaid anwes yn gyfrifol.”

‘Cyfrifol ar y cyfan’

Mae un warden o draeth Morfa Bychan ger Porthmadog, sydd am aros yn ddienw, yn dweud nad yw cŵn na’u perchnogion yn achosi llawer o broblemau yno.

“Mae ymwelwyr yn gyfrifol efo cŵn ar y cyfan,” meddai.

“Maen nhw’n pigo baw i fyny, felly dydyn ni ddim yn cael llawer o drafferth efo nhw.

“Weithiau mae pobl yn gadael y bagiau sy’n cynnwys y baw ac rydyn ni’n gorfod codi’r rheiny o bryd i’w gilydd.”

Wrth drafod traeth Morfa Bychan, mae’n egluro bod y cyfyngiadau presennol yn gweithio, ond gallai fod yn broblem i draethau eraill wrth drio denu ymwelwyr.

“Tuag at y gorllewin dydy’r cŵn ddim yn cael mynd – dim ond rhyw 500 llath i gyd – wedyn mae gweddill y traeth, sydd tua dwy filltir, yn rhydd i gŵn gael mynd,” meddai.

“Rydyn ni’n gorfod mynd ar ôl rhai sydd ddim yn gweld yr arwyddion, sydd ddim yn broblem.

“Does yna ddim cymaint o incwm mewn llefydd eraill [o gymharu â Morfa Bychan], ond mae gan gymaint o bobol gŵn erbyn hyn, wyddwn i ddim pa reswm sydd dros eu gwahardd nhw.”