Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi ei fwriad i benodi Richard Lewis yn Brif Gwnstabl y llu.

Yn dilyn proses recriwtio, bydd penderfyniad Dafydd Llywelyn nawr yn cael ei ystyried gan Banel yr Heddlu a Throsedd mewn gwrandawiad ddiwedd y mis.

Ar hyn o bryd, mae Richard Lewis yn Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland yn Lloegr, a bu’n siarad â Golwg ynghylch y ddyletswydd yr oedd e’n ei theimlo i addysgu pobol yno am Gymru a’r Gymraeg ychydig fisoedd yn ôl.

Ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi eleni cyhoeddodd flog yn galw am gyflogi mwy o siaradwyr Cymraeg yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac ers symud i fyw yng ngogledd-ddwyrain Lloegr mae ganddo olwg newydd ar y Gymry.

Wrth drafod ei benderfyniad i benodi Richard Lewis, dywedodd Dafydd Llywelyn fod ganddo “hanes gwych o ymladd troseddau”, a’i fod yn edrych ymlaen at gydweithio.

Richard Lewis

Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, cychwynnodd ei yrfa gyda’r heddlu fel cwnstabl yn Nyfed-Powys yn 2000, cyn gweithio’i ffordd i fyny gyda’r llu, gan weithio ymhob un o siroedd yr ardal, hyd at rôl y Dirprwy Brif Gwnstabl.

Ddegawd yn ôl, yn rhan o’i siwrne i’r brig, fe enillodd Richard Lewis ysgoloriaeth i fynd i astudio dulliau plismona – a’r defnydd o ddrylliau taser yn benodol – yn America.

Ar hyn o bryd, Richard Lewis yw arweinydd moeseg Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, ac mae e’n cadeirio’r Pwyllgor Moeseg Cenedlaethol.

Yn ddiweddar, cwblhaodd PhD gyda Phrifysgol Caerfaddon hefyd.

“Anrhydedd”

“Mae’n anrhydedd imi gael fy newis yn ymgeisydd dewisol y Comisiynydd, Dafydd Llywelyn, ar gyfer swydd y Prif Gwnstabl yn Nyfed-Powys,” meddai Richard Lewis.

“Rwyf wedi mwynhau fy amser yn Heddlu Cleveland yn fawr. Mae’n ardal sy’n fy atgoffa o adref ac mae’r croeso a gefais yma wedi bod yn ysgubol.

“Mae’r staff yn Cleveland ymhlith y gorau rydw i wedi gweithio gyda nhw yn genedlaethol a diolchaf iddyn nhw am eu gwaith caled parhaus a’r gefnogaeth maen nhw wedi’i dangos i mi ers i mi gyrraedd yn gynnar yn 2019.

“Mae’r cyfle i ddychwelyd adref ac arwain fy llu cartref yn un na allwn fforddio ei golli. Rwy’n addo rhoi popeth yn fy misoedd sy’n weddill yn Cleveland ac i gymunedau Dyfed-Powys am weddill fy ngwasanaeth.

“Hoffwn ddiolch i Gomisiynydd Steve Turner o Cleveland sydd wedi bod yn hynod gefnogol ac i’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn am y ffydd y mae wedi’i rhoi ynof.”

“Gweledigaeth, penderfyniad a gwytnwch”

Gan ddweud fod gan Richard Lewis hanes gwych yn ymladd troseddau, dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, ei fod yn falch o allu gwneud y cyhoeddiad.

“Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi Richard Lewis fel fy ymgeisydd dewisol ar gyfer penodi Prif Gwnstabl Dyfed-Powys,” meddai Dafydd Llywelyn.

“Pan ddechreuais ar y broses hon, roedd yn bwysig fy mod yn recriwtio Prif Swyddog a allai ddod â’r weledigaeth, y penderfyniad, a’r gwytnwch sy’n ofynnol i arwain yr Heddlu yma yn Nyfed-Powys.

“Fe berfformiodd Richard yn dda iawn trwy gydol yr holl broses asesu a dangos sgiliau arwain gwych. Mae ei brofiad a’i ddealltwriaeth helaeth o blismona ynghyd â’i wybodaeth am ardal Dyfed-Powys yn ei roi mewn lle da i gefnogi’r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

“Fel Prif Gwnstabl gweledigaethol, bydd Richard yn adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed gan ei ragflaenydd, Mark Collins a ymddeolodd yn gynharach eleni, i wella ansawdd ein gwasanaeth yn barhaus, amddiffyn ein cymunedau a chwrdd â disgwyliadau’r cyhoedd,” ychwanegodd.

“Mae ganddo hanes gwych o ymladd troseddau a rheoli plismona cymunedol ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda Richard i gadw ein cymunedau’n ddiogel ac i ddatblygu Llu sy’n gwasanaethu ar gyfer heddiw ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

“Croeso aruthrol” i’r Cymro Cymraeg sy’n Brif Gopyn yn Lloegr

Barry Thomas

Trigolion gogledd-ddwyrain Lloegr yn debyg i Gymry Llanelli, meddai Richard Lewis