Mae Cyngor Gwynedd wedi galw ar bobol leol i gynnig syniadau am sut i reoli’r cynnydd yn y bobol sy’n ymweld â’r sir mewn cartrefi modur ac, wrth siarad â golwg360, mae Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, wedi cynnig rai atebion ei hun.

Ers sawl mlynedd bellach, mae lleoliadau o fewn y sir wedi bod yn boblogaidd ymysg ymwelwyr, ac mae’r cyngor wedi penderfynu gweithredu ar y mater.

Mae hyn yn batrwm cyffredin ar draws y Deyrnas Unedig, gyda thua 357,000 o gartrefi modur wedi eu cofrestru.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, mae’r Cyngor am edrych ar sut mae rhannau eraill o Ewrop yn ymdopi â’r broblem hon wrth feddwl am eu datrysiadau eu hunain.

Maen nhw hefyd am glywed barn cymunedau i gael darlun clir o’r sefyllfa’n lleol.

Angen ‘rheoli’r sefyllfa i’r dyfodol’

“Ers nifer o flynyddoedd bellach, rydym wedi gweld twf ym mherchnogaeth cartrefi modur ar draws Prydain ac mae’r patrwm yna wedi ei adlewyrchu yn ymweliadau cartrefi modur i Wynedd yn ogystal,” meddai Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd.

“Gyda chyfyngiadau Covid-19 yn golygu fod pobl wedi bod yn llai tebygol o deithio i’r cyfandir, rydym wedi gweld cynnydd dros y cyfnod yma wrth i bobl ymweld mewn cartrefi modur i fwynhau atyniadau poblogaidd Gwynedd.

“Mae neges y Cyngor ar hyd y cyfnod yma wedi bod i bobol sy’n dewis ymweld â Gwynedd i fod yn bwyllog, trefnu o flaen llaw a thrin ein cymunedau gyda pharch.

“Fe wyddwn ni fod meysydd carafanau a gwersylla Gwynedd wedi bod yn hynod boblogaidd dros y flwyddyn ddiwethaf ac nad ydynt bob amser yn diwallu anghenion a phatrwm teithio perchnogion cartrefi modur.

“Rydym yn edrych ar y pwerau sydd gan y Cyngor i ymdrin â chartrefi modur yn ogystal ag ystyried os oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu o drefniadau sy’n eu lle mewn rhai ardaloedd eraill o Brydain ac ar gyfandir Ewrop o ran y maes.

“Ein bwriad ydi sicrhau ein bod yn gallu rheoli’r sefyllfa i’r dyfodol a dyna pam rydym yn awyddus i glywed barn pobl Gwynedd a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i lenwi’r arolwg.”

Ymateb

Yn ôl Arfon Jones, mae ymwelwyr mewn cartrefi modur nad ydyn nhw’n parchu’r rheolau yn broblem enfawr ar draws Gwynedd, a gweddill y wlad, ac mae angen mynd i’r afael â nhw.

“Dw i wedi gweld cartrefi modur wedi parcio lle ddylen nhw ddim, er bod yna lefydd i wersylla,” meddai wrth golwg360.

“Mi ddylai Cyngor Gwynedd weithredu mwy ar y rheolau.

“Mae gen ti wardeniaid parcio yn barod, pam na fedra nhw neud yr un peth efo cartrefi modur sy’n parcio dros nos?”

Wrth ystyried sut gall cynghorau sir fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon, mae’n dweud bod angen cynnig mwy o lefydd ar gyfer y cartrefi modur.

“Mae angen i Gyngor Gwynedd sbïo ar nifer o opsiynau, fel darparu llefydd parcio mwy pwrpasol ar eu cyfer nhw, a rhoi biniau yno ar gyfer gwastraff.

“Dw i wedi gweld llefydd fel Ardal y Llynnoedd yn gwneud hynny ac, wrth gwrs, dydi o ddim jyst yn broblem yng ngogledd Cymru, mae o’n broblem ar hyd y Deyrnas Unedig.

“Ar ddiwedd y dydd, os ydi’r galw’n cynyddu, mae’r gost o wersylla’n mynd i gynyddu, sy’n mynd i achosi mwy o broblem.

“Maen nhw’n dewis parcio ar ochr stryd oherwydd bod hi’n costio gymaint i wersylla, ond os ydyn nhw’n gallu fforddio prynu cartrefi modur, dylai eu bod nhw’n gallu fforddio talu i wersylla.

“Beth mae’r cynghorau sir wir angen ei wneud ydi cynyddu gorfodaeth i dalu dirwyon am dorri rheolau.”