Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi dewis rhewi prisiau prydau ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, pleidleisiodd aelodau i gadw pris cinio dyddiol yn £2.50 yn hytrach na chodi i £2.55.

Roedd pryderon eisoes bod costau cynyddol yn arwain at sawl un yn dod â bocs bwyd eu hunain.

Yn ôl adroddiad cabinet o 2019, roedd penderfyniad yn 2017 i godi’r costau dyddiol wedi arbed llai o arian na’r disgwyl oherwydd bod sawl teulu yn dewis peidio prynu cinio ysgol.

Dangosodd ffigyrau mai cyfartaledd o 46% o ddisgyblion cynradd Gwynedd oedd yn dal i brynu cinio ysgol yn 2019, i lawr o 50% yn 2016/17.

Er bod y pris yn aros yr un fath, gan gostio £22,890 i’r adran addysg, mae costau cinio ysgol Gwynedd yn ddrytach na 13 o 22 awdurdod lleol Cymru, ac yn rhatach na dim ond pedwar.

“Dw i’n falch iawn o gefnogi’r argymhelliad yma,” dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager yn ystod y cyfarfod.

“Mae ’na lot o deuluoedd wedi gwynebu amser caled, a dw i’n meddwl bod o’n rôl arnom ni i drio cadw pris cinio ysgol mor fforddiadwy ag y gallwn ni.

“Dwi’n ymwybodol bod ’na lot fawr o deuluoedd sydd yn stryglo ac sydd ddim yn gymwys am ginio ysgol am ddim.”

Cafodd y cynnig ei gefnogi’n unfrydol.