Mae grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Penglais yn Aberystwyth yn hunanynysu ar ôl i achos o Covid-19 gael ei gadarnhau yno.

Mae disgyblion o sawl blwyddyn sy’n teithio ar yr un bws wedi cael gwybod ac mae gofyn iddyn nhw aros gartref a hunanynysu am ddeng niwrnod hefyd.

Byddan nhw’n cael eu haddysgu o bell wrth iddyn nhw hunanynysu, ac mae’r holl rieni wedi cael gwybod am y sefyllfa ac fe fyddan nhw’n cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Ceredigion.

Mae rhieni’n cael eu hannog i fynd â’u plant am brawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau canlynol:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas
  • Symptomau annwyd yr haf – gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
  • Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (cyhyrau poenus); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn; tisian yn barhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian
  • Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol yn flaenorol

Yn ogystal, dylai rhieni sicrhau eu bod yn trefnu prawf COVID-19 os yw eu plentyn yn teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.

Mesurau

Mae pobol yn cael eu hannog i barhau i gadw pellter o ddwy fetr oddi wrth ei gilydd, gwisgo mwgwd dan do, golchi dwylo’n rheolaidd a sicrhau bod digon o awyr iach dan do.

Dywed y Cyngor na fyddan nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr achos yn Ysgol Penglais.