Mae darlithydd a wellaodd y broses o roi presgripsiynau gwrthfiotigau i wartheg a defaid wedi ennill gwobr.

Ennillodd y Dr Gwenllïan Rees Wobr Effaith Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol am ei rhan yn y prosiect Arwain Vet Cymru.

Caiff y Wobr Effaith ei rhoi i filfeddyg sy’n cynnal prosiect sydd wedi cael effaith sylweddol ar y maes, iechyd neu les anifeiliaid, neu iechyd y cyhoedd.

Dr Rees sy’n arwain y prosiect Arwain Vet Cymru, ac mae newydd gael ei phenodi fel darlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd y myfyrwyr cyntaf yn dechrau eu hastudiaethau ar y cwrs newydd sbon yma fis Medi eleni.

Cafodd Dr Rees ei geni yn yr Iseldiroedd, a’i magu yn Pum Heol, Sir Gaerfyrddin. Cymhwysodd fel milfeddyg ym Mhrifysgol Lerpwl.

Gweithiodd am sawl blwyddyn yng Nghymru a’r Seland Newydd mewn practis ar gyfer ffermydd gwledig a cheffyl, ac enillodd ei doethuriaeth o Brifysgol Bryste.

Ymwrthedd gwrthfiotig yw ei maes arbenigol, yn enwedig astudio ymddygiad ffermwyr a milfeddygon wrth benderfynu ar feddyginiaeth i anifeiliaid fferm.

‘Diolchgar’

“Rwyf wrth fy modd bod gwaith arloesol Arwain Vet Cymru wedi ei gydnabod gan Goleg y Milfeddygon yn y fath fodd,” meddai Dr Gwenllïan Rees wrth ymateb.

“Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb, ac rwy mor falch o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda thîm gwych o gydweithwyr o Iechyd Da, Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion a Phrifysgol Bryste.

“Yn bennaf oll, rwy’n ddiolchgar am waith caled ac ymroddiad ein rhwydwaith o Bencampwyr Rhagnodi Milfeddygol am wneud y prosiect cystal llwyddiant.”

Ysgol Milfeddygaeth

“Ers i mi fod yn ferch ifanc oedd am ddod yn filfeddyg, rwyf wedi credu’n gryf bod angen Ysgol Filfeddygaeth ar Gymru,” ychwanegodd.

“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o sefydlu’r ysgol ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn y myfyrwyr cyntaf i Aberystwyth ym mis Medi.

“Fe fydda i’n dysgu myfyrwyr milfeddygol mewn gwahanol bynciau yn cynnwys hwsmonaeth anifeiliaid ac astudiaethau proffesiynol. Rwy hefyd yn gyfrifol am gymorth cyfrwng Cymraeg, ehangu cyfranogiad ac estyn allan i ysgolion, ymchwil ar ymwrthedd gwrthfiotig ac edrych ar ôl dysgu ar ffermydd y Brifysgol.”

“Rwy’n gobeithio helpu Prifysgol Aberystwyth i sefydlu Ysgol Milfeddygaeth sy’n hyfforddi milfeddygon ardderchog, rhai sydd yn medru defnyddio’u sgiliau i wella lles ac iechyd anifeiliaid a phobl, yng Nghymru ac yn fwy eang.”

Gwytnwch

“Llongyfarchiadau lu i Dr Rees ar ei llwyddiant ac am y gydnabyddiaeth haeddiannol hon o’i gwaith,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

“Mae amaeth a’i diwydiannau perthnasol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae yna gyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod.

“Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol newydd yn ychwanegu darn hollbwysig i’r jig-so, un a fydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Dr Rees a phawb arall sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru.”