Mae teulu Frankie Morris o Landegfan wedi cyhoeddi manylion ei angladd.
Cafodd y cwest i farwolaeth y dyn 18 oed ei agor yr wythnos hon.
Cafwyd hyd i’w gorff mewn coedwig yn ardal Caerhun ger Bangor yr wythnos ddiwethaf.
Doedd neb wedi ei weld e ers Mai 2 pan oedd yn gwthio’i feic heibio i dafarn ym Mhentir, tua dwy filltir o’r goedwig, ar ôl bod mewn parti mewn chwarel yn Waunfawr y noson gynt.
Dydy’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus.
Clywodd gwrandawiad ddoe (8 Mehefin) fod ymchwiliad post-mortem yn awgrymu ei fod wedi marw o ganlyniad i gywasgiad ar y gwddw yn sgil crogi.
Mae’r gwrandawiad wedi’i ohirio tra bod ymchwiliadau’n parhau, a dywedodd Kate Sutherland, yr uwch grwner dros dro ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, ei bod hi’n gobeithio cynnal cwest llawn ym mis Medi.
Roedd mam Frankie Morris, Alice Morris, yn bresennol yn y gwrandawiad.
Angladd
Daeth cadarnhad bellach y bydd ei angladd yn Amlosgfa Bangor ddydd Mawrth nesaf (Mehefin 15) am 1.30yp.
Mae gofyn i bobol beidio â gwisgo du.
O ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, dim ond 24 o deulu a ffrindiau fydd yn cael mynd i’r angladd, ond mae croeso i bobol dalu teyrnged i Frankie y tu allan.
Mae’r teulu wedi diolch i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth.