Mae cwest i farwolaeth Frankie Morris, a fu ar goll am dros fis, wedi dechrau.

Cafodd corff y bachgen 18 oed o Landegfan, Ynys Môn, ei ddarganfod mewn coedwig yn ardal Caerhun ger Bangor yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd ei weld ddiwethaf ar 2 Mai yn gwthio ei feic heibio i dafarn ym Mhentir, tua dwy filltir o’r goedwig, ar ôl bod mewn parti mewn chwarel yn Waunfawr y noson flaenorol.

Bu dwsinau o wirfoddolwyr a heddlu yn chwilio amdano, ac wythnos diwethaf fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gadarnhau nad yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Clywodd gwrandawiad ddoe (8 Mehefin) fod ymchwiliad post-mortem yn awgrymu ei fod wedi marw o ganlyniad i gywasgiad ar y gwddw yn sgil crogi.

Mae’r gwrandawiad wedi’i ohirio tra bod ymchwiliadau’n parhau, a dywedodd Kate Sutherland, yr uwch grwner dros dro ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, ei bod hi’n gobeithio cynnal cwest llawn ym mis Medi.

Roedd mam Frankie Morris, Alice Morris, yn bresennol yn y gwrandawiad.

Cadarnhau mai corff Frankie Morris gafodd ei ddarganfod

Nid yw marwolaeth y llanc 18 oed yn cael ei thrin fel un amheus bellach