Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ddarganfod wrth chwilio am Frantisek “Frankie” Morris.

Mae Frankie, 18 oed, wedi bod ar goll ers iddo gerdded adref o barti yn Waunfawr ddydd Sul 2 Mai.

Cafodd ei weld ddiwethaf ar luniau camera cylch cyfyng tafarn y Vaynol Arms ym Mhentir, ger Bangor, yn gwthio ei feic ychydig wedi un y p’nawn.

Cafwyd hyd i’r beic yn ddiweddarach.

Mae nifer fawr o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan o’r chwilio, gan ddefnyddio drônau a chŵn.

Cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru bod corff wedi cael ei ddarganfod mewn coedwig ger Caerhun ar gyrion Bangor yn gynharach brynhawn ddoe (dydd Iau 3 Mehefin).

Mae’r crwner wedi cael gwybod am y datblygiad ond dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol.

Bydd post-mortem yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 4 Mehefin.

Mae’r heddlu’n dweud fod teulu Frankie Morris wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.

“Mae ein cydymdeimladau dwysaf a diffuant gyda theulu a ffrindiau Frankie yn ystod yr adeg anodd iawn yma,” meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Lee Boycott.

Fis diwethaf, arestiodd swyddogion a oedd yn ymchwilio i’r achos ddyn ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus yn ogystal â dyn a menyw ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder – ond cawsant eu rhyddhau’n ddiweddarach, ac nid ydynt bellach yn rhan o’r ymchwiliad.

“Cwbl dorcalonnus” – mam Frantisek ‘Frankie’ Morris wedi dod i Gymru i chwilio amdano

Alice Morris drosodd o’r Weriniaeth Tsiec ac yn apelio am wybodaeth am ei mab