Er bod cynllun Porthi Pawb yng Nghaernarfon yn dod i ben heddiw (dydd Iau, Mehefin 3), dydi’r criw ddim yn bwriadu rhoi’r gorau iddi’n gyfangwbl.

Ar gychwyn y cyfnod clo cyntaf, penderfynodd Chris Summers fynd ati i sefydlu menter gymdeithasol yn y dref gyda’r bwriad o ddarparu prydau poeth i’r henoed a phobol fregus.

Dros yr haf y llynedd, cafodd Porthi Plantos ei sefydlu, gan ddarparu cinio ysgol dros y gwyliau, ac erbyn y gaeaf, cafodd banc dillad i blant ei sefydlu.

Yn ôl Chris Summers, sy’n berchen ar fwyty Y Crochan yn y dref, bydd tair rhan o’r cynllun yn dychwelyd ymhen ychydig fisoedd ar ôl i bawb gael seibiant.

Mae’r cynlluniau’n cael eu rhedeg yn wirfoddol a maes o law, bydd Porthi Pawb yn dod yn rhan o gynllun O Law i Law – sef hwb cymunedol ar gyfer trwsio ac ailddefnyddio nwyddau yng nghanol Caernarfon.

Wrth ddechrau Porthi Pawb flwyddyn a mwy yn ôl, doedd Chris Summers ddim yn disgwyl y byddai’n cael y fath effaith ar bobol, ac mae’n “reit dorcalonnus” rhoi stop ar y cynllun dros dro, meddai.

Seibiant

“Mae’r gwasanaeth fel rydyn ni’n gwybod amdano dros y flwyddyn ddiwethaf yn dod i ben heddiw,” meddai Chris Summers wrth golwg360.

“Be rydyn ni’n cynllunio ei wneud ydi cau rŵan, gorffen y gwasanaeth yma am yr ychydig fisoedd nesaf i bawb gael seibiant a chael dod yn ôl i’r ychydig bach o normality yma sydd gennym ni rŵan.

“Wedyn, rydyn ni hefyd yn rhan o gynllun O Law i Law yn Stryd Llyn, siop fydd o’n rhan o’r use and reuse scheme trwy Lywodraeth Cymru.

“Felly mae Porthi Pawb yn rhan fawr o hwnna.”

Ddechrau’r flwyddyn, fe wnaeth Cyngor Tref Caernarfon sicrhau grant gan Gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21 Llywodraeth Cymru er mwyn mynd ati i sefydlu’r hwb cymunedol.

“Be fydd yn digwydd rŵan efo’n gwasanaeth ni’n dod i ben am rŵan, ydy y cawn ni’r cyfle i ddatblygu a sefydlu cegin ein hunain yn y siop O Law i Law, lle gawn ni gynnig cegin gymunedol, lle gawn ni redeg gwasanaeth fel Porthi Pawb neu roi gwahoddiad i bobol ddod mewn i ddysgu coginio, neu i wneud gwahanol fath o bethau,” meddai wedyn.

“Rydyn ni yn y broses rŵan o osod pethau fyny.”

Dywed ei bod hi’n brysur yn Y Crochan, a bod hynny’n “grêt”.

“Efo ni rŵan yn canolbwyntio ar hyn, pan gawn ni amser, gawn ni ddechrau costio fyny’r gegin, dechrau trefnu i bobol ddod yma i wneud ychydig bach o waith.

“Dyna rydyn ni am ei wneud yn y misoedd nesaf.”

“Dim geiriau i’r teimladau”

“Dw i’n gwybod fod y dref wedi derbyn y cynllun mor gymaint,” meddai Chris Summers am effaith y cynllun ar drigolion Caernarfon dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Alla i ddim rhoi geiriau i’r teimladau dw i wedi’u cael wrth siarad efo pobol sydd wedi cael dagrau yn siarad am y ffordd wnaeth Porthi Pawb helpu nhw ar y dechrau.

“Do’n i ddim yn meddwl y bysa fo’n effeithio pobol fatha wnaeth o.

“Mae o’n reit dorcalonnus, mae o’n deimlad reit od” rhoi gorau i’r cynllun am ychydig fisoedd, meddai, er ei fod yn gwybod fod y cynllun am ddychwelyd.

“Ond rydyn ni wedi gwneud rhywbeth rili da i’r dre, a does gennym ni ddim bwriad stopio’n gyfan.”

Porthi Plantos yn ehangu a darparu dillad i blant Dre

Gohebydd Golwg360

“Rydan ni wedi adeiladu peiriant mawr rŵan hefo Porthi Pawb – mae o’n unstoppable!”