Mae Osian Jones o Aberaeron wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer plant cynradd “Gwlad y Chants”.

Hon yw cystadleuaeth creu “chant” pêl droed newydd i gefnogi Cymru yn Ewro 2020 gan y Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Bydd yr enillydd y gystadleuaeth yn cael ymweld â sesiwn ymarfer carfan Cymru, tra bydd enillwyr y gwahanol gategorïau’n derbyn crys wedi ei arwyddo gan garfan Ewro 2020 Cymru.

“Sea Shanty y Wal Goch” yw enw ymgais Osian ac mae wedi ei ddylanwadu gan y diddordeb mewn siantis morwrol.

Gan ddefnyddio alaw adnabyddus “Wellerman” gan Nathan Evans, mae Osian wedi cynnwys geiriau ei hun sydd yn cyfeirio at rai o sêr Cymru megis Gareth Bale a Daniel James.

Cafodd y rhestrau byrion eu dewis gan banel o feirniaid oedd yn cynnwys cyflwynydd Sgorio Sioned Dafydd, y cerddor a chyflwynydd Y Wal Goch Yws Gwynedd, prif leisydd band Y Cledrau, Joseff Owen, a’r ffan selog, Gwenno Teifi.

“Arbennig o dda”

“I fi mae chant pêl-droed da yn gorfod bod yn eithaf doniol, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn syml a bydd pobl yn gallu dysgu’n gloi iawn,” meddai Sioned Dafydd.

“Fi wastad yn mwynhau bach o hiwmor mewn chant pêl-droed!”

Ychwanegodd Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered: Menter Iaith Ceredigion: “Mae chant Osian yn arbennig o dda.

“Mae’n cyfuno alaw adnabyddus, geiriau sy’n odli ac yn ffitio’n wych a churiad cryf.

“Gallai’n sicr ddychmygu hon yn gweithio fel chant go iawn mas yn Rhufain a Baku tase modd i’r Wal Goch deithio yno i gefnogi’r tîm cenedlaethol – cofiwch bleidleisio!”

Pêl droedwyr Cymru'n diolch i'w cefnogwyr ar ôl taith anhygoel yn Ffrainc

Cystadleuaeth yn chwilio am ‘chants’ pêl-droed newydd ar gyfer Ewro 2020

“Dw i’n annog pawb i fynd ati i greu ‘chant’ gan obeithio y byddwn yn clywed y rhain ar y terasau yn fuan” medd Yws Gwynedd sy’n un o’r beirniaid