Mae maer newydd Bangor wedi gwneud hanes – nid yn unig fel y maer ieuengaf erioed yng Nghymru, ond hefyd y maer anneuaidd (non-binary) cyntaf yn y byd.

Mae Owen Hurcum, a symudodd i Fangor i fod yn fyfyriwr yn wreiddiol, wedi sicrhau eu lle yn y llyfrau hanes ar ôl cael eu cyflwyno gyda’r cadwyni maerol yn ystod seremoni yn gynharach yr wythnos hon.

Mae Owen, a “syrthiodd mewn cariad” gyda’r ddinas ar ôl llai nag wythnos yn byw yno, wedi neilltuo llawer o amser i’r gymuned LHDT+, yn lleol ac yn ehangach. Anneuaidd yw eu hunaniaeth ac mae’n defnyddio’r rhagenwau ‘eu’/’nhw’.

Etholwyd Owen, sy’n wreiddiol o Harrow ger Llundain ond sydd wedi byw ym Mangor ers dros bum mlynedd, i swydd ddinesig uchaf y ddinas y llynedd.

Ond er i Owen wasanaethu fel dirprwy faer y ddinas, cafodd y dyrchafiad i’r swydd uchaf ei oedi am 12 mis oherwydd y pandemig – tan i seremoni gael ei chynnal o’r diwedd yn ystod cyfarfod cyngor y ddinas ddydd Llun diwethaf.

“Taro tant”

Wrth siarad ar ôl y seremoni, dywedodd Owen, er eu bod wedi ofni cael eu “alltudio” gan y gymuned ar ôl dod allan ddwy flynedd yn ôl, eu bod yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd.

Ar ôl cael negeseuon o gefnogaeth ers y penodiad gan gyd-gynghorwyr, ychwanegodd Owen: “Rwy’n gwybod bod cynrychiolaeth yn fwy na rhoi’r cadwyni ymlaen ac mai’r hyn a wnawn fel tîm i Fangor yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd fydd yn cyfri'”

“Ond serch hynny, rwy’n falch bod fy etholiad wedi taro tant gyda chymaint o bobl.”

Hefyd, etholwyd y Cynghorydd Gwynant Roberts yn Ddirprwy Faer newydd.

Mae’r Cynghorydd Hurcum yn cymryd yr awenau oddi wrth y Cynghorydd John Wyn Wiliams yn dilyn ei ddwy flynedd yn y swydd.