Mae pryderon ynglŷn â cheir yn gor-yrru ym Mynydd Llandygai wedi bod yn destun pryder i drigolion yr ardal leol ers sawl blwyddyn bellach.

Mae’r Cyngor Cymuned a’r Cynghorydd Sir Dafydd Owen wedi bod yn cyfathrebu’n gyson â Chyngor Gwynedd i drafod eu pryderon.

Yn ôl y Cynghorydd Cymuned, Iwan Hywel, mae’r broblem hon wedi dwysáu yn ddiweddar, yn sgil pandemig y coronafeirws.

Fodd bynnag, mewn datblygiad yr wythnos hon, mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am grant i ymgymryd â nifer o gamau gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno twmpathau, adolygu a newid goleuadau stryd, adolygu arwyddion traffig a chyflwyno marciau ffyrdd.

Mae’r cais hefyd yn amlygu’r bwriad i greu astudiaeth dichonoldeb i edrych ar y posibilrwydd o greu llwybr troed ar ymyl y ffordd sy’n cysylltu Mynydd Llandygai ag Ysgol Bodfeurig.

Maen nhw’n disgwyl clywed a fu’r cais yn llwyddiannus.

“Berig go iawn o ddamwain” 

Eglura Iwan Hywel, ar ran Cyngor Cymuned Mynydd Llandygai, fod pryderon gwirioneddol ymhlith trigolion yr ardal ynglŷn â gor-yrru ar hyd y brif ffordd i fyny drwy’r pentref.

Dywed hefyd fod pryderon “difrifol” ynglŷn â chyflymder ceir wrth yrru heibio Ysgol Bodfeurig.

Er bod Cyngor Gwynedd eisoes wedi rhoi arwyddion o rybudd ar y lôn, dywed nad ydyn nhw wedi cael yr effaith angenrheidiol.

“Does yna ddim ateb perffaith,” meddai.

“Ond rydyn ni’n falch ofnadwy bod y cais yma’n digwydd a bod yr awdurdod lleol yn cymryd y camau yma i wneud y lle yn saffach.

“Mae yna berygl go iawn o ddamwain, os dydi rhywbeth ddim yn cael ei wneud.”

“I fyny i’r gyrwyr i gallio”

“Rydyn ni wedi bod yn trafod hyn hefo Cyngor Gwynedd ers talwm,” meddai Dafydd Owen, y Cynghorydd Sir dros Dregarth a Mynydd Llandygai.

“Mae hi’n flynyddoedd rŵan, ers i ni fod wrthi ac mae hynny yn gwylltio rhywun.

“Fel ti’n dod i lawr am Ysgol Bodfeurig, mae’r lôn yn gul a dim palmant ac mae hi’n job.

“Wrth fod yna gloddiau uchel, dwyt ti ddim yn gweld chwaith.

“Rydyn ni yn trio… ond mae hi i fyny i’r gyrwyr i gallio dipyn bach hefyd.

“Dim ots faint o arwyddion fedri di ei rhoi, os nad yw’r gyrrwr yn defnyddio dipyn bach o synnwyr – mae car yn eitem beryglus, os ydi rhywun yn rhoi ei droed i lawr.”