Daeth newyddion da o lawenydd mawr yn ddiweddar i dîm Dyffryn Gwyrdd ym Methesda, sef fod y car trydan cymunedol wedi cyrraedd.

Mae prosiect tair blynedd Dyffryn Gwyrdd wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd.

Bwriad y cerbyd trydan yw cefnogi’r gymuned leol drwy gydol y pandemig, drwy gludo parseli bwyd a danfon prydau poeth i bobol fregus yr ardal.

Y gobaith tymor hir yw cynnig y cerbyd ar gyfer defnydd cymunedol, fel bod modd teithio i’r ysbyty, casglu negeseuon a gwneud teithiau cymdeithasol mewn modd cynaliadwy.

“Cynnig y cerbyd ar gyfer defnydd cymunedol”

“Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael cefnogaeth i’n prosiect tair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac un o brif elfennau’r prosiect yw grymuso’n cymuned,” eglura Huw Davies, Rheolwr Prosiect Partneriaeth Ogwen.

“Mae cael yr adnodd newydd hwn, sy’n addas ar gyfer cludo defnyddwyr cadair olwyn, yn gaffaeliad mawr ac rydym wedi dechrau’i ddefnyddio’n barod ar gyfer cludo parseli bwyd ein Cronfa Cefnogi Cymunedol.

“Rydyn ni hefyd yn ei ddefnyddio i ddanfon prydau poeth ein prosiect ar y cyd â chaffi Coed y Brenin, sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd.

“Maes o law, ac unwaith fydd y pandemig wedi cilio, byddwn yn dechrau cynnig y cerbyd ar gyfer defnydd cymunedol.”

“Gwarchod yr amgylchedd”

“Mae’r cerbyd newydd yn enghraifft arall o’r Bartneriaeth yn cynorthwyo trigolion y dyffryn, tra hefyd yn gwarchod yr amgylchedd,” meddai Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen.

“Nid yn unig mae’r car yn 100% trydan, mae hefyd yn cael ei wefru o baneli solar Ynni Ogwen ar do Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen.

“Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno beiciau trydan fel rhan o brosiect y Dyffryn Gwyrdd ac yn defnyddio ffrwyth ein hymchwil cymunedol i ystyried datblygiadau eraill gyda cherbydau trydan.”

“Gwaith anhygoel yn y gymuned ym Methesda”

“Rydym yn falch iawn o allu cefnogi Partneriaeth Ogwen gyda’r project hwn,” meddai Nia Hughes, Swyddog Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng ngogledd Cymru.

“Maen nhw eisoes wedi gwneud gwaith anhygoel yn y gymuned ym Methesda, ac mae’n wych eu bod yn gallu adeiladu ar hyn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

“Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r amgylchedd, i fywydau pobol ac i ysbryd gymunedol.”

9Z5A7348-Edit-2

Beiciau trydan – ffordd i fod yn hapusach ac yn wyrddach!

Tom Simone

Dywed cynghorydd o Fethesda fod ei beic trydan yn ‘game changer’ ac yn eu gweld yn rhan allweddol o ddyfodol hapusach a gwyrddach.
Dyffryn Gwyrdd

Llwyddiant loteri yn creu cyfleodd Dyffryn Gwyrdd

Tom Simone

Mawr fu’r dathlu yn swyddfa Partneriaeth Ogwen heddiw ar ôl derbyn cadarnhad fod cais ‘Dyffryn …