Bydd aelodau cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod yr argymhellion i gynyddu costau parcio mewn rhai meysydd ar draws y Sir yn eu cyfarfod sydd i’w gynnal yr wythnos nesaf.

Daw hynny wedi’i Grŵp Tasg Parcio gael ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2019 i lunio adroddiad ar ôl adolygu strategaeth parcio bresennol y Cyngor – sydd wedi aros fwy neu lai’r un fath ers 2015.

Mae’r adroddiad, yn nodi bod hi’n amser da i adolygu’r sefyllfa ac asesu addasrwydd a pherthnasedd y strategaeth bresennol i anghenion y Cyngor a’r Cymunedau.

Bydd y prisiau parcio diwygiedig yn dod i rym ym mis Ebrill, os caiff y cynnig ei gymeradwyo.

Yr argymhellion

Er bod yr adroddiad yn argymell cadw’r ffioedd meysydd parcio arhosiad byr oddi fewn i ganolfannau manwerthu a gwasanaethu lleol yr un fath, maent yn cynnig strwythur ffioedd newydd ar gyfer meysydd parcio arhosiad hir.

Bydd hynny’n golygu bod ffioedd meysydd parcio ‘Band 2’ yn cael eu haddasu fel a ganlyn.

Ffioedd Meysydd Parcio ‘Band 2’

Byddai ffioedd arhosiad hir mewn meysydd parcio tymhorol, sef ‘Band 3,’ hefyd yn cynyddu £1 i bob awr.

“Anorfod i gynyddu’r ffioedd parcio”

Mae’r adroddiad yn cydnabod fod y drafodaeth ynglŷn â ffioedd parcio yn gallu ysgogi teimladau cryf ond yn amlygu bod rhaid adolygu’r sefyllfa.

Yn ôl yr adroddiad:

“Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd gyda’r Grŵp Tasg Parcio, bu i’r gweithgor gydnabod ei bod yn anorfod cynyddu’r ffioedd parcio presennol er mwyn cynhyrchu refeniw sydd yn ddigonol i gyfarch targed incwm y Cyngor yn ogystal â’r cynnydd chwyddiant yn flynyddol.

“Roedd y Grŵp hefyd yn cydnabod bod llawer iawn wedi newid ers i’r Cyngor gynnal yr adolygiad diwethaf yn 2015.

“Mae cyfle nawr i adolygu’r trefniadau presennol ac argymell gwelliannau sydd yn cydweddu gyda sefyllfa’r economi leol ac uchafu’r defnydd o feddalwedd sydd bellach ar gael.

Mae’r adroddiad yn nodi bydd rhai elfennau angen sylw pellach dros y flwyddyn nesaf, megis parcio dros y Nadolig a ffioedd mannau gwefru.

Bydd y Cabinet yn cynnal eu cyfarfod ddydd Ddydd Mawrth (Chwefror 16).