Mae Germinal a Phrifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi partneriaeth ymchwil tymor hir newydd a fydd yn hyrwyddo ffermio cynaliadwy.

Yn sgil y bartneriaeth newydd, sy’n adeiladu ar bron i 35 mlynedd o gydweithio rhwng y ddau sefydliad, bydd Germinal yn cyflogi ac yn cyfarwyddo tîm o ymchwilwyr craidd yn y sefydliad i edrych ar borthiant a glaswelltir, yn ogystal ag ariannu swydd Athro mewn Ymchwil Glaswelltir Arloesol.

Bydd y tîm yn adeiladu ar gyflawniadau Gweiriau Uchel eu Siwgr Aber, sy’n lleihau allyriadau o ffermydd da byw ac wedi ennill sawl gwobr.

Byddan nhw hefyd yn ceisio gwneud datblygiadau newydd o ran cynnwys lipid gweiriau, effeithlonrwydd y defnydd o faetholion a chnydau protein newydd, er mwyn cyrraedd sefyllfa lle mae’r broses o gynhyrchu da byw cnoi cil cynhyrchiol yn un carbon niwtral.

“Brys i ymateb i fygythiad newid hinsawdd”

“Rydym ni’n gwybod bod ffermwyr da byw ar flaen y gad wrth ymateb i’r her o ddarparu digon o fwyd o ansawdd uchel ac, ar yr un pryd, yn chwarae eu rhan er mwyn mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd,” meddai William Gilbert, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Germinal.

“Rydym yn deall bod brys i ymateb i fygythiad newid hinsawdd, a’r pwysau y mae hyn yn ei roi ar gynhyrchwyr llaeth, eidion a defaid.

“Fel arbenigwyr ar hadau porthiant, mae Germinal wedi ymrwymo i arwain y ffordd, i ddatblygu amrywiaeth o borthiant a defnyddio gwybodaeth i’r eithaf er mwyn helpu’r ffermwyr hyn i ddod yn fwy cynhyrchiol a phroffidiol, i fwydo poblogaeth sy’n cynyddu ac, ar yr un pryd, i gyrraedd y targedau uchelgeisiol sero-net a osodwyd i’r diwydiant.

“Drwy’r bartneriaeth newydd hon, mae gweledigaeth Germinal o osod ymchwilwyr o fewn busnesau amaethyddol er mwyn helpu i hwyluso arloesedd yn cael ei chyflawni.

“Mae’r datblygiad hwn yn enghraifft ar gyfer cydweithrediad rhwng cyrff cyhoeddus a phreifat a bydd yn gymorth i ni gyflwyno datblygiadau arloesol a fydd o fudd uniongyrchol i ffermwyr unigol ac i’r gymdeithas ehangach.”

“Cyfuno adnoddau a’r arbenigedd”

“Mae’n bleser gennym ni gadarnhau’r berthynas newydd, gryfach hon gyda Germinal,” meddai’r Athro Iain Donnison, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae ein partneriaeth newydd yn datblygu ar hanes o lwyddiant wrth gydweithio, a bydd yn arwain at fwy byth o integreiddio.

“Mae’n cyfuno’r adnoddau a’r arbenigedd sydd yma yn Aberystwyth gyda mynediad Germinal i’r farchnad fasnachol a’u gwybodaeth.

“Mae hyn yn golygu y gallwn gyflymu ymchwil a fydd yn helpu i gyrraedd targed y Llywodraeth o sero-net erbyn 2050 ac, ar yr un pryd, ddal gafael ar ddiwydiant bwyd a ffermio sy’n ffynnu.”