Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi cadarnhau fod naw achos o’r coronafeirws ymhlith staff a myfyrwyr y brifysgol.

Golygai hyn fod achosion o’r coronafeirws wedi eu cofnodi ym mhob un o brifysgolion Cymru.

“Fel rhan o gynllun Ymateb ac Adfer y Brifysgol rydym wedi cychwyn proses i staff a myfyrwyr gofnodi symptomau coronafeirws a amheuir neu a gadarnhawyd”, meddai llefarydd ar ran Prifysgol y Drindod Dewi Sant wrth golwg360.

“Trwy’r broses hon rydym wedi nodi, hyd at ddydd Iau, Hydref 8 , fod pedwar aelod o staff a phump myfyriwr wedi profi’n bositif am Covid-19 ar draws campysau’r Brifysgol yng Nghymru.

“Ni allwn gadarnhau unrhyw fanylion eraill am resymau cyfrinachedd.”

Dim canolfannau profi ar gampysau’r Drindod

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe (Hydref 8) y bydd canolfannau profi coronafeirws lleol yn agor ger safleoedd rhai o brifysgolion Cymru.

Bydd rhagor o ganolfannau profi lleol yn agor mis yma yn Abertawe, Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth.

Ond cadarnhaodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant nad oes gan y Brifysgol ei chyfleusterau profi ei hun ac ni fydd safleoedd profi yn cael eu lleoli ar eu campysau.

“Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn gweithio’n agos gyda’r GIG ac Awdurdodau Lleol”, meddai’r llefarydd.

Mae gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant gampysau yng Nghaerfyrddin, Llanbed, Abertawe a Chaerdydd.

‘Iechyd a lles ein cymuned’

“Iechyd a lles ein cymuned yw ein blaenoriaeth ac mae ein pryderon uniongyrchol i’r unigolion yr effeithir arnynt, eu teuluoedd a’n cymuned ehangach”, ychwanegodd y llefarydd ar ran Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

“Mae’r Brifysgol yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a’r berthynas agos o gyd-ymddiriedaeth a pharch rydyn ni wedi’u datblygu dros nifer o flynyddoedd.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhoi sicrwydd i aelodau o’n cymuned o’r mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith i amddiffyn rhag lledaeniad y coronafeirws.

“Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos.”