Mae Catherine Roberts, sydd yn 17 mlwydd oed ac yn byw ym Methesda, wedi cael ei henwi fel aelod o garfan nofio Cymru. Yn nofwraig profiadol, mae Catherine wedi bod yn hyfforddi ym mhwll nofio Bangor ac yna ym mhwll nofio Caernarfon ers yn blentyn Ifanc.

Er ei bod wedi cyflawni cymaint dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi cystadlu ym Mhencampwriaethau Prydain dwy flynedd yn olynol, dywed mai cael ei henwi fel aelod o garfan Cymru yw uchafbwynt ei gyrfa hyd yn hyn.

Yn ôl Catherine: “Dwi wrth fy modd! Dwi wedi gweithio at hyn ers blynyddoedd, felly dwi mor hapus!”

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn heriol i ddweud y lleiaf, wrth iddi orfod addasu a bod yn greadigol ac ystyried ffyrdd newydd o ymarfer, gan fod ei mannau hyfforddi arferol ar gau.

“Oni’n gorfod hyfforddi mewn pwll nofio yn yr ardd gefn!” Eglura Catherine, “oni methu symud i nunlla, dim ond aros yn fy unman a trainio hefo pwysau yn y dŵr!”

Y gobaith yw y bydd modd iddi gychwyn hyfforddi gyda gweddill tîm Cymru dros yr wythnosau nesaf.

“Dwi’n teimlo mor hapus ond hefyd yn overwhelmed. Ar ôl bod allan am 6 mis, cael cychwyn nofio eto ac wan dwi yn squad Cymru!”

Wrth edrych i’r dyfodol, dywed Catherine yr hoffai gystadlu yn Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022 a pwy a ŵyr, efallai cawn ei gweld yr olympics un diwrnod!