Mae tafarn yn Aberystwyth wedi gorfod cau ar ôl torri rheolau’r coronaferiws.

Mae hysbysiad cau wedi’i gyflwyno gan swyddogion trwyddedu i The Mill Inn yn Aberystwyth, a bydd y dafarn yn aros ar gau nes y bydd wedi gwneud gwelliannau.

Yn ôl rheolau Llywodraeth Cymru, mae gan awdurdodau lleol ar draws y wlad bwerau i gau, neu roi hysbysiad i wneud gwelliannau, i unrhyw dafarn neu fwyty sy’n torri rheolau’r coronafeirws.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, wedi cynyddu eu gorfodaeth o ran busnesau sy’n methu â chadw eu cwsmeriaid yn ddiogel a sicrhau nad yw achosion Covid-19 yn cynyddu yn y Sir.

“Bydd y Cyngor yn bendant yn gweithredu os darganfyddir bod unrhyw fusnes yn euog o dorri rheoliadau Covid-19,” meddai datganiad gan y Cyngor.

“Er mwyn diogelu’r cyhoedd, mae angen i bob busnes sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau drwy’r amser.”

Cyngor Sir Ceredigion yn “falch o weld cymaint” o fusnesau yn cydymffurfio

Fod bynnag, dywedodd y datganiad fod y Cyngor yn “falch o weld bod cymaint o fusnesau yn gweithredu’n dda i ddarparu amgylchedd diogel i’w cwsmeriaid.”

“Mae llawer o’r busnesau yr ymwelwyd â hwy yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gwneud gwelliannau pellach yn dilyn derbyn cyngor gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor Sir.”