Newid hinsawdd, cefnogaeth iechyd meddwl, annibyniaeth i Gymru, a chydraddoldeb… dyma rai o’r materion sy’n bwysig i ddisgyblion Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern wrth benderfynu sut i bleidleisio eleni…

Wythnos i heddiw, bydd pobol ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau Senedd Cymru.

Ac mae Cadi Dafydd wedi bod yn holi pedwar o ddisgyblion blwyddyn 12 Ysgol Bro Edern yn y brifddinas ynghylch y pethau sy’n bwysig iddyn nhw cyn y bleidlais.

Roedd Gwion Rhisiart, Lily Isaac, Molly Spivey, a Morgan Barrell i gyd yn “hapus iawn” fod pawb dros 16 oed yn cael pleidleisio o hyn ymlaen, a bod yr etholiad yma yn gyfle i bobol ifanc “gael llais am y tro cyntaf”.

Morgan Barrell, Lily Isaac, Gwion Rhisiart a Molly Spivey o Ysgol Bro Edern

“Cymryd cyfrifoldeb”

Mae Gwion yn astudio Lefel A Hanes, Almaeneg, Daearyddiaeth a’r Fagloriaeth Gymraeg, ac wrth ei fodd gyda’r penderfyniad i roi’r hawl i bobol ifanc 16 ac 17 oed fwrw pleidlais.

“Dw i’n credu bod e’n syniad rili da, dw i ddim yn teimlo bod e’n deg fod cymaint o ddewisiadau wedi cael eu gwneud, ac ein bod ni ddim yn cael ein cynrychioli yn y broses.

“Er enghraifft, gyda’r fiasco arholiadau’r flwyddyn ddiwethaf, roedd yna ddiffyg siarad gyda phobol ifanc.

“Ro’n i’n teimlo fel ein bod ni’n ystadegau ar dudalen, fel ein bod ni’n algorithm yn hytrach na disgyblion gyda dyfodol.

“Dw i’n credu fod cael pobol ifanc yn y broses yn golygu fod gwleidyddion yn meddwl am bobol ifanc.”

Ac mae Molly, sy’n astudio Lefel A Hanes, Gwleidyddiaeth, Celf, a’r Fagloriaeth Gymraeg, yn cytuno i’r carn.

“Dw i’n credu ei fod e’n bwysig iawn. Os ydyn ni’n ddigon hen pan ydyn ni’n 16 i gael hawliau fel oedolion – ni’n gallu gadael ysgol, ni’n gallu gweithio  – os ydyn ni’n cael yr hawliau yna, dw i’n credu ei fod yn bwysig iawn cael yr hawl i bleidleisio.

“Mae’r penderfyniadau am effeithio arnom ni gymaint â rhywun sy’n 30 oed.”

Ychwanega Lily, sy’n astudio Almaeneg, Saesneg, a Hanes, ei bod hi’n “hapus iawn” gyda’r penderfyniad i adael i bobol ifanc bleidleisio, “oherwydd mae’n helpu ni i gymryd cyfrifoldeb gwleidyddol”.

“Mae bron yn gorfodi ni i feddwl am y pethau sy’n digwydd, ni’n cael llais am y tro cyntaf, felly dw i’n hapus.”

Ac fel y tri arall, mae Morgan hefyd yn astudio Hanes, yn ogystal â Throseddeg a Gwleidyddiaeth, ac mae’n cyfaddef nad oedd yn siŵr os mai newid yr oedran pleidleisio i 16 oedd y penderfyniad cywir ar y dechrau.

“Nawr, yn enwedig ar ôl y pandemig a gweld faint mae dewisiadau gwleidyddol yn effeithio ar bobol ifanc yn benodol, dw i’n ei gefnogi,” meddai.

“Dylai pobol ifanc gael dweud [eu dweud] ar y pethau sydd wedi effeithio nhw, ac ar sut mae eu dyfodol nhw am edrych.”

Newid naratif i atal newid hinsawdd

I Gwion, newid hinsawdd a’r amgylchedd yw un o’r materion pwysicaf yn yr etholiad hwn.

“Os ydyn ni’n mynd yn ôl i normal, dw i’n credu bod angen setio normal newydd. Ein bod ni ddim yn setio’r naratif yma ein bod ni’n defnyddio ceir, ein bod ni’n dibynnu arnyn nhw, ond ein bod yn cerdded neu ddefnyddio’r beic ar gyfer siwrnai byr, neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer siwrnai hir.

“Dw i’n credu bod angen newid y naratif, a newid diwylliant eithaf lot ar ôl y pandemig.

“Yr amgylchedd yn sicr yw’r mater mwyaf pwysig i fi.

“Gyda Deddf y Farchnad Fewnol, un o’r cyfreithiau sy’n dod o dan hynny yw os byddai Cymru’n cyflwyno gwaharddiad ar blastigau un defnydd, bysa plastigau sydd yn cael eu gwneud yn Lloegr dal yn gallu cael eu gwerthu fan hyn.

“Gyda phethau fel yna, mae e’n teimlo yn eithaf helpless. Achos os ydyn ni’n cyflwyno gwaharddiadau ar blastig a stwff, wedyn mae San Steffan yn gallu rhoi veto arnyn nhw mewn ffordd.

“Maen nhw’n brifo amgylchedd Cymru, sa i’n meddwl bod hwnna’n iawn.”

Ac mae Lily yn cytuno: “Yr amgylchedd yw un o’r prif bethau dw i’n trïo meddwl amdano.

“A hefyd, trafnidiaeth efallai achos yng nghanol Caerdydd mae’n eithaf da, ond yn yr ardaloedd o gwmpas… efallai nad yw mor dda.

“Mae’n gwneud hi’n anoddach i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”

Cysgod Brexit a ffioedd myfyrwyr

“Dw i’n meddwl fod cyfleoedd i bobol ifanc, yn enwedig ar ôl y pandemig, yn mynd i fod yn beth pwysig i fi wrth benderfynu pwy i bleidleisio,” meddai Morgan.

“Dw i’n meddwl fod rhoi cyfleoedd i bobol ifanc sydd wedi aberthu llawer o bethau yn ystod y pandemig yn bwysig iawn.”

Ac mae Lily yn cytuno: “Dw i’n credu bod lot o bobol ifanc yn credu bod rhaid symud o Gymru er mwyn cael swyddi, ond falle i’r rhai sydd eisiau aros byddai mwy o swyddi, a mwy o fynediad at y swyddi, yn beth da.

“O ran cyfleoedd, falle pleidiau sy’n mynd i hyrwyddo teithio dramor, a gallu mynd i wledydd eraill.

“Rydw i wedi bod yn meddwl yr hoffwn i allu astudio dramor am flwyddyn yn y brifysgol, ond oherwydd Brexit d’yw e ddim yn glir iawn os fydda i’n gallu gwneud hynny.

“Rwy’n credu bod Brexit wedi cloi ni off oddi wrth ddiwylliannau eraill Ewrop, a dw i’n teimlo’n gryf y dylen ni fod yn agos i’n gilydd, a deall ein gilydd.”

Ac mae gan Gwion ei amheuon am effaith Brexit hefyd.

“Rydw i a Lily, fel disgyblion Almaeneg, wedi bod yn edrych ar gyrsiau Almaeneg yn y brifysgol sydd gyda blwyddyn dramor,” meddai, “ond mae’r broses just yn dod can gwaith mwy cymhleth os ydych chi eisiau mynd dramor, yn enwedig os ydych chi eisiau byw dramor am flwyddyn.

“Yn sicr, mae Brexit wedi achosi i fi ymwneud mwy â gwleidyddiaeth. Ac mae’n gwneud i fi deimlo’n grac.

“Fi’n credu bysa cael addysg uwch am ddim mewn prifysgolion yn syniad da, dw i’n gwybod am lot o ffrindiau sy’n ystyried mynd i brifysgol, ond dydyn nhw ddim eisiau’r baich o orfod bod mewn student debt wedyn.”

Mae Morgan yn cytuno y dylid lleihau ffioedd myfyrwyr, “yn enwedig ar gyfer pobol sydd wedi gorfod dysgu ar-lein – dydi o ddim yr un fath”.

“Dw i’n credu os ydy [ffioedd] yn cael eu lleihau, bydd mwy o gyfleoedd i fwy o bobol fynd [i’r brifysgol], yn lle jyst y rhai sy’n gallu fforddio.”

Ym marn Molly, byddai lleihau ffioedd myfyrwyr yn “galluogi i fwy o gymysgedd o bobol fynd yno”, yn hytrach na bod prifysgolion “jyst yn targedu un math o berson”.

“Os ydyn ni am gael cymdeithas fwy cymysg, fi’n credu mai hynny yw’r cam cyntaf i gael hynny, galluogi mwy o bobol i fynychu’r brifysgol”.

Annibyniaeth – “cymryd cam ymlaen”

Bum mlynedd yn ôl, yn ystod etholiad diwethaf Cymru, nid oedd fawr o sôn am annibyniaeth, ond dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gefnogaeth tuag at y syniad wedi cynyddu’n sydyn.

“Dw i’n credu bod Cymru angen llawer mwy o bŵer dros ein gwlad, mae Cymru angen cael rheolaeth dros ein hun,” pwysleisia Molly.

“Dw i’n arbennig yn edrych ar annibyniaeth wrth bleidleisio, yn enwedig ar ôl Brexit,” ychwanega Molly, sy’n cyfaddef mai Brexit wnaeth ddechrau ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth.

“Dw i’n credu ei fod e’n bwysig iawn er mwyn i ni allu datblygu i fod yn wlad gyda mwy o bwerau. Dw i’n credu mai annibyniaeth yw’r ffordd i fynd o ran cael pŵer.”

Ac mae gan Lily farn debyg: “Byddai’n fuddiol i Gymru petawn ni’n cael mwy o bŵer dros ein penderfyniadau ni, yn lle cael ein rheoli gan San Steffan.”

Mae Morgan hefyd am weld gwleidyddion Bae Caerdydd yn cael mwy o rym.

“Dw i’n meddwl y dylai’r Senedd gael mwy o bŵer, oherwydd yn ystod y pandemig rydyn ni wedi gweld sut mae llywodraeth Cymru, yr Alban, a San Steffan wedi gweithio’n wahanol.

“A sut mae rhan fwyaf o bobol yn credu fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n well na Llywodraeth San Steffan, felly dw i’n meddwl y dylen nhw gael mwy o bwerau.”

Ac mae Gwion am weld hyn hefyd: “Fyswn i’n pleidleisio dros bleidiau fyddai’n pwsio dros ddatganoli, a phwerau benthyg mwy pwerus i Gymru.

“Dw i’n edrych ar bleidiau sy’n cynnig annibyniaeth yn eu maniffestos, dw i’n credu fod lot o bobol ifanc wedi gweld sut mae Cymru wedi gwneud yn well yn y pandemig wrth reoli ein gwlad ein hunain.

“Maen nhw wedi gweld mai’r agosaf y mae dewisiadau yn cael eu gwneud i wlad, y gorau.”

Ac mae’r gair olaf ar annibyniaeth yn mynd i Lily: “Dw i’n credu bod lot o bobol yn credu bod Cymru’n styc, a bod dim llawer wedi digwydd… bod dim byd positif yn digwydd.

“Dw i’n credu byddai annibyniaeth yn caniatáu i ni gymryd cam ymlaen, a gallu dod yn wlad lwyddiannus.”

Mynd i’r afael gydag iechyd meddwl

Mater arall a gafodd ei drafod oedd cefnogaeth i faterion iechyd meddwl, a’r angen i bleidiau gwleidyddol gynllunio er mwyn mynd i’r afael â phroblemau yn y ddarpariaeth.

“Dw i’n credu bod cefnogaeth iechyd meddwl yn bwysig i bobol ifanc,” eglura Gwion.

“Roedd yna ddiffyg cefnogaeth cyn y pandemig beth bynnag, ond nawr mae pobol ifanc wedi bod yn styc mewn a mas o’r cyfnodau clo ers blwyddyn – mae problemau iechyd meddwl newydd yn datblygu, a phobol a oedd yn arfer bod â phroblemau wedi gwaethygu.

“Rydw i’n credu bod yr holl system cefnogaeth iechyd meddwl… d’yw e ddim yn gweithio.

“Mae cymaint o aros rhwng apwyntiadau, mae angen lleihau’r amser aros yn sicr.

“Mae’n llawer gwaeth [ers y pandemig], oherwydd bod mwy o bobol ifanc angen cefnogaeth.”

Ac mae Molly yn cytuno: “D’yw’r system [iechyd meddwl] ddim yn gweithio, ac mae hynny’n amlwg.

“Rydw i’n gwybod o brofiad fy hun bod llawer o bobol yn mynd trwy’r system, ac yn dod mas yn waeth oherwydd yr amseroedd aros.

“Dydi e jyst ddim yn helpu o gwbl, ac mae hynny’n bendant yn rhywbeth pwysig wrth i fi ystyried pwy i bleidleisio drosto.”

Ac mae Morgan am weld gweithredu pendant: “Mae llawer o bobol wedi stryglo yn ystod y cyfnodau clo, mae’n hawdd anwybyddu fe, mae angen plan i daclo fe.”

Galw am gydraddoldeb

Ledled y byd, mae pobol ifanc wedi bod yn amlwg iawn yn ymgyrchoedd Black Lives Matter, a dywedodd Gwion a Morgan fod cydraddoldeb, a mynd i’r afael â hiliaeth, yn faterion sy’n eu poeni nhw.

“[Mae’n] rhywbeth dw i’n meddwl lot amdano, er nad oes gan y Senedd bwerau dros gyfiawnder. Dw i’n credu bod angen i ni wthio amdanyn nhw,” meddai Gwion.

“Rydym ni wedi gweld ym mis Ionawr bod Mohamud Hassan wedi marw ar ôl bod yn y ddalfa gyda Heddlu De Cymru, a ni braidd wedi clywed dim am hynny, o ran beth sydd wedi digwydd i swyddogion, a does dim lot o transparency wedi bod ynghylch beth ddigwyddodd.

“Dw i’n credu bod angen cael prosesau lle mae transparency ynghylch beth sy’n digwydd i heddlu sy’n cael eu cyhuddo o bethau fel hyn.

“Dw i’n credu bod hi’n hawdd meddwl nad oes llawer o hiliaeth o fewn yr heddlu yn y Deyrnas Unedig, oherwydd does dim gynnau gyda nhw.

“Ond rydyn ni wedi gweld [pobol wedi marw ar ôl bod yn y ddalfa], er enghraifft Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a Moyied Bashir o Gasnewydd.”

Ac mae Morgan am weld y mater yn cael ei wyntyllu: “Mae braidd unrhyw wleidyddion yn trafod unrhyw beth am hynna.

“Fe wnaethon nhw pan oedd y protestiadau’n mynd ymlaen, ond nawr does neb yn [trafod].

“Dw i’n meddwl y bydd y blaid sydd actually yn trafod e yn ystod y campaign nawr, bydden nhw’n actually newid e – yn lle jyst dweud pethau, mae’n rhaid cael plan i newid.”

  • Ewch i gyfrifon cymdeithasol Fotio am Fory ar Twitter ac Instagram er mwyn dysgu mwy am wleidyddiaeth, ymuno yn y sgwrs, magu hyder, a ffeindio eich llais.

Dyma le i leisio dy farn!

Mae Fotio am Fory yn blatfform newydd i bleidleiswyr ifanc