Mae Hywel Williams, AS Plaid Cymru dros Gaernarfon, wedi croesawu cynlluniau i ddileu ymddeol gorfodol.

Ar hyn o bryd, mae cyflogwyr yn gallu mynnu bod staff yn ymddeol yn 65 – waeth beth fo’u hamgylchiadau.

Ond, mae Hywel Williams wedi bod yn galw ers tro byd am ymestyn yr hawl i bobol dros 65 gael eu gwarchod rhag eu diswyddo’n annheg.

Mae’n credu y dylid “amddiffyn” hawl pobol i ymddeol, tra’n rhoi’r hawl hefyd i “rai pobol” ddal ati i weithio.

“Dewis go iawn”

“Dylai pobl hŷn gael dewis go iawn i barhau i weithio os mynnant heb fod â bygythiad diswyddo annheg dros eu pennau,” meddai Hywel Williams.

“Buom yn disgwyl am hyn ers meitin, a dw i wedi lobïo amdano.

“Un o’r pethau cyntaf a wnes i pan gefais f’ethol yn 2001 oedd ymgyrchu i sefydlu’r hawl i warchodaeth cyflogaeth i bobol dros 65.

“Does dim cyfiawnhad dros gamwahaniaethu ar sail oedran.”