Treviso 15 – 38 Scarlets

Mae’r Scarlets wedi cadw eu hunain o fewn cyrraedd i rownd wyth olaf Cwpan Heineken â buddugoliaeth gadarnhaol oddi cartref yn erbyn Treviso.

Sgoriodd Dominic Day, Dan Newton, Gareth Maule geisiau dros y Scarlets, ac fe aeth Jonny Fa’amatuainu drosodd cyn y chwiban olaf i sicrhau pwynt bonws.

Tarodd yr Eidalwyr yn ôl â cheisiau gan Robert Barbieri a Marco Filippucci.

Treviso ddechreuodd orau a sicrhau cic gosb ron yn syth ar ôl i Tavis Knoyle ddal gafael yn y byd ar lawr ar ôl i un o giciau Rhys Priestland gael ei daro i lawr.

Ciciodd maswr Treviso, Willem De Waal, y gic gosb ond heblaw am drosiad ar ôl cais Robert Barbieri dyna ei bwyntiau olaf trwy gydol y gêm.

Bu bron i Treviso sgorio wedyn pan ryngipiodd Joe Maddock bas gan Tavis Knoyle ond penderfynodd y dyfarnwr ei fod o’n camsefyll.

Ond o hynny ymlaen gan y Scarlets oedd y rhan fwyaf o’r meddiant ac fe roddodd y dynion mewn coch mwy a mwy o bwysau ar linell amddiffynnol Treviso tan i’r clo Dominic Day dorri drwodd.

Sgoriodd y Scarlets gais arall diolch i Morgan Stoddart a dorrodd drwyddo cyn pasio’r bel i Dan Newton a groesodd y gwyngalch.

Sgarmes Treviso oedd eu harf mwyaf pwerus a thoc cyn hanner amser llwyddon nhw i wthio’r Scarlets yn ôl 20 metr gan ganiatáu i Robert Barbieri sgorio.

Penderfynodd Treviso ganolbwyntio ar yr un dacteg yn yr ail hanner ac yn hytrach na chymryd cic at y gôl fe aethon nhw am y llinell.

Arweiniodd eu llinell gyntaf at gerdyn melyn i Vernon Cooper am dynnu chwaraewr i lawr ac â’r ail ffurfiodd Treviso sgarmes arall a gwthio Marco Filippucci drosodd am gais.

Tarodd 14 dyn y Scarlets yn ôl yn syth â chais gan Gareth Maule ar ôl rhediad chwim gan y mewnwr Martin Roberts.

Roedd y Scarlets yn chwilio am y pwynt bonws ac fe sgoriodd Jonny Fa’amatuainu gais hwyr i selio buddugoliaeth dda.