Mae’r Prif Weinidog wedi ymuno â Ffrainc a’r Almaen wrth alw am rewi cyllideb yr Undeb Ewropeaidd nes diwedd y ddegawd.

Cyhoeddodd David Cameron ddogfen ar y cyd ag Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, ac arweinwyr eraill Ewrop yn galw am ffrwyno gwario’r Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw’n dweud na ddylai cyllideb yr Undeb gynyddu yn gynt na chwyddiant dros gyfnod 2014-20.

Dywedodd David Cameron bod y ddogfen yn nodi’n glir eu pendantrwydd na ddylai’r gyllideb gynyddu eto.

Wrth siarad ar ddiwedd cyfarfod Cyngor Ewrop ym Mrwsel, dywedodd y Prif Weinidog ei fod o wedi sicrhau “cytundeb clir ac unfrydol” na fydd Prydain yn cael “ei orfodi i dalu dyledion Ewrop “.

“Ledled Ewrop mae gwledydd yn torri nôl er mwyn delio â’u diffygion ariannol. Allai Ewrop ddim osgoi hynny.

“Mae Prydain, Ffrainc a’r Almaen – y tair gwlad fwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd – yn sefyll gyda’i gilydd er mwyn atal cyllideb yr Undeb Ewropeaidd rhag codi y tu hwnt i reolaeth.”

Ymateb Llafur

Dywedodd ysgrifennydd tramor yr wrthblaid, Yvette Cooper, nad oedd David Cameron wedi “cyflawni unrhyw beth o bwys dros Brydain”.

“Does yna ddim cytundeb difrifol i leihau’r gyllideb yn y dyfodol. Mae’r Prif Weinidog yn trio ei orau i roi’r argraff ei fod o’n llym gydag Ewrop er mwyn plesio aelodau meinciau ôl ei blaid.”