Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr o blaid hawliau pobol hoyw wedi canmol penderfyniad Aelod Seneddol Ceidwadol o Abertawe i ddatgelu ei fod o’n hoyw.

Dywedodd asiant Nigel Evans, un o ddirprwy lefarwyr Tŷ’r Cyffredin, y bydd yn datgelu ei fod o’n hoyw ym mhapur newydd y Mail on Sunday yfory.

Mae Nigel Evans yn dod o Abertawe yn wreiddiol ac yn berchennog siop gyfleus yn y ddinas. Mae o’n Aelod Seneddol Ribble Valley yn Swydd Gaerhirfryn.

Dydd Llun fe fydd yn bresennol yn lansiad ParliOut – grŵp i bobol hoyw sy’n gweithio yn San Steffan.

Dywedodd Chris Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda, ei fod o’n falch bod Nigel Evans wedi penderfynu bod yn agored ynglŷn â’i rywioldeb.

“Rwy’n falch bod Nigel Evans yn ‘dod mas’. Wedi bod yn gyfrinach agored yn San Steffan ers blynyddoedd,” ysgrifennodd ar safle rwydweithio Twitter.

Dywedodd elusen hawliau hoyw Stonewall eu bod nhw’n croesawu’r newyddion.

“Rydym ni wrth ein bodd bod pobol sy’n llygad y cyhoedd yn teimlo eu bod nhw’n gallu bod yn agored ynglŷn â’u rhywioldeb,” meddai llefarydd.

Ar hyn o bryd mae yna 22 Aelod Seneddol agored hoyw yn San Steffan. Mae mwy na’u hanner nhw yn Geidwadwyr.