Mae gweinidog wedi annog Cristnogion i gynnal oedfaon yn eu cartrefi eu hunain o ganlyniad i’r eira mawr y penwythnos yma.

Bydd y rhew a’r eira yn tarfu ar wasanaethau crefyddol ar draws Cymru yfory – ar y Sul sydd, fel arfer, gyda’r prysuraf yn y flwyddyn i Gristnogion. Mae disgwyl y bydd cannoedd o gapeli ac eglwysi ar gau.

Mae’r Parchg Guto Prys ap Gwynfor, gweinidog tair eglwys Annibynnol yn ardal Llandysul, yn awgrymu y dylai Cristnogion gynnal gwasanaethau yn eu cartrefi eu hunain – gan wahodd cymdogion i ymuno â nhw.

“Amser i’r teulu yw’r Nadolig,” meddai Guto Prys ap Gwynfor, sy’n gyn-lywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

“Fel Anghydffurfwyr rydym yn credu mewn addoliad teuluol. Os na all teulu’r ffydd yn lleol gwrdd am fod y capel ar gau, beth am gynnal gwasanaeth ar yr aelwyd? “

Mae Guto Prys ap Gwynfor yn weinidog Seion yn nhre fechan Llandysul yn ne Ceredigion, a Hermon a Seilo yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd ei fod o’n gobeithio y bydd gwasanaeth Nadolig arbennig a drefnwyd yn Seion yn cael ei gynnal yfory.

Mae Hermon eisoes wedi penderfynu gohirio gwasanaethau tan ar ôl y Nadolig.