Mae Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau wedi gwadu adroddiadau eu bod nhw’n cam-drin milwr o Sir Benfro sy’n cael ei ddrwgdybio o basio gwybodaeth gudd i wefan Wikileaks.

Cafodd Bradley Manning ei eni yn Oklahoma ond symudodd i fyw i Gymru gyda’i fam. Mae ei deulu yn byw yn Sir Benfro ar hyn o bryd.

Mae Jeff Paterson, cyfarwyddwr prosiect Courage to Resist, yn honni bod Bradley Manning yn cael ei gadw mewn cell fechan ar ei ben ei hun am 23 awr bob diwrnod.

“Rydym ni’n credu ei fod o’n cael ei gosbi cyn cael ei ddedfrydu,” meddai Jeff Paterson.

Arestiwyd Bradley Manning ym mis Mai ar ôl i WikiLeaks ryddhau darn o ffilm o hofrenyddion Apache yn lladd dau o weithwyr Reuters yn Irac yn 2007.

Mae’r Pentagon hefyd yn edrych a oes cysylltiad rhyngddo â’r cannoedd o filoedd o ddogfennau o ryfeloedd Afghanistan ac Irac ryddhawyd gan WikiLeaks dros y misoedd diwethaf.

Mae o wedi ei gyhuddo o drosglwyddo gwybodaeth gudd, ac fe allai wynebu 52 mlynedd yn y carchar.

Dyw Jeff Paterson ddim wedi ymweld â Bradley Manning ei hun ond wedi siarad gyda phobol eraill sydd wedi ymweld ag ef.

Mae Bradley Manning wedi ei garcharu mewn canolfan filwrol yn Quantico, Virginia, ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Amddiffyn bod gan Bradley Manning yr un “breintiau” a bob carcharor arall sydd yn y ddalfa.

Mae Bradley Manning yn cael ymarfer corff, amser hamdden, darllen y papurau newydd a gweld ymwelwyr, meddai.

Dywedodd y llefarydd bod adroddiadau yn y wasg yn “gwbl anghywir”.