Mae cwmni Camelot yn dal i chwilio am rywun sydd wedi enillydd £5.6m ar y loteri ar ôl prynu tocyn yng Nghymru.

Dywedodd y cwmni sy’n gweinyddu’r Loteri Genedlaethol bod rhywun wedi prynu’r tocyn gwerth £5,629,964 yn ardal Port Talbot.

Maen nhw’n gobeithio rhoi’r “anrheg Nadolig orau erioed” i rywun, ond os nad yw’n rhoi gwybod iddyn nhw yn fuan fe fydd yr arian yn mynd i elusen.

Y rhifau ar ddydd Mercher, 1 Rhagfyr oedd 20, 21, 22, 24, 27, 34. Y rhif 29 oedd y bêl fonws.

Mae gan bwy bynnag brynodd y tocyn tan 5.30pm ar ddydd Llun, 30 Mai, 2011 i hawlio’r cyfoeth.

Fel arall bydd yr arian yn mynd i gronfa Good Causes. Mae’r Loteri Genedlaethol eisoes wedi codi £25 biliwn tuag at elusennau ers lansio ym mis Tachwedd 1994.

Dywedodd llefarydd ar ran y Loteri Genedlaethol y dylai pobol “gymryd pip i lawr cefn y soffa. Mae’n bosib bod rhywun yn eistedd ar ffortiwn, yn llythrennol”.

Os oes gennych chi’r tocyn buddugol, ffoniwch 0845 910 0000.