Cyngor Sir y Fflint yw’r cyntaf yng Nghymru i gynnig ailgylchu nwyddau trydanol.
Maen nhw wedi agor tri ‘banc trydanol’ yn y sir, a fe fydd hi’n bosib i bobol adael eu holl nwyddau trydanol, o gyfrifiaduron i dostwyr, yno.
Fe fydd y cyngor yn cydweithio gyda’r cwmni amgylcheddol Strateco o Groesoswallt er mwyn gweld a ydi’r cynllun dros dro yn llwyddiant.
“Mae pobol Sir y Fflint yn gryf o blaid ailgylchu ac rydym ni’n arwain y ffordd gyda’r cynllun banciau trydanol,” meddai’r cynghorydd Nancy Matthews, yr aelod dros reoli gwastraff.
“Mae’r gymdeithas wedi hen arfer taflu nwyddau trydanol ar y pentwr sbwriel. Fe fydd y banciau trydanol yn osgoi costau safloedd tirlenwi, yn gwarchod yr amgylcheed ac yn cefnogi swyddi lleol.”
Mae’r banciau trydanol newydd ar gaekl yn Tesco yr Wyddgrug, Treffynnon a Parc Sopa Brychdyn.