Dau blentyn 14 oed o Gymru yw’r rhieni ifancaf ym Mhrydain, datgelwyd heddiw.

Beichiogodd April Webster ar ôl cysgu gyda’i chariad Nathan Fishbourne pan oedd hi’n 13 oed. Roedd y ddau yn yr un flwyddyn yn Ysgol St Cenydd, Caerffili.

Daeth mab y cwpwl, Jamie, i’r byd ar 15 Tachwedd drwy enedigaeth Gesaraidd

Mae Jamie yn byw gydag April a’i rhieni yng Nghaerffili ar hyn o bryd. Mae Nathan wedi dweud y byddai’n hoffi edrych ar ei ôl ar y penwythnosau.

Dechreuodd y ddau gael rhyw yn fuan ar ôl dechrau’r berthynas ym mis Medi’r llynedd, ond dywedodd April nad oedd hi wedi rhoi gwybod i’w mam am fod “ganddi gywilydd”.

“Doedden ni ddim wedi bwriadu cael Jamie ond mae’n wych cael bod yn fam,” meddai’r fam ifanc wrth bapur newydd y Sun.

“Mae o’n berffaith ac fe fydd o’n cael popeth mae o ei eisiau.”

Dywedodd Nathan ei fod o wrth ei fodd yn cael bod yn dad ac yn helpu i newid Jamie.

Ychwanegodd ei fam, Julie, ei bod hi “yn flin” i ddechrau ond wedi mynd i hwyl pethau a phrynu cot, sedd babi, a giât i’r stâr.

Y tad ifancaf erioed oedd Sean Stewart, o Bedford. Ganwyd ei blentyn yn 1998 pan oedd yn 12 oed.