Mae swyddogion yng ngwaith dur Port Talbot yn ymchwilio i honiadau bod tua 20 o weithwyr wedi eu dal yn cysgu yn ystod oriau gwaith.
Mae’n debyg eu bod nhw wedi eu dal gan gamerâu cylch cyfyng ynghwsg ac wedi eu hatal o’u gwaith dros dro wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei blaen.
Yn ôl adroddiadau doedd y dynion ddim yn gweithio ond roedden nhw ar alwad ar y pryd.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Tata Steel Europe bod undebau yn ymwybodol o’r ymchwiliad ac mewn cysylltiad gyda nhw.
Mae dros 5,000 o weithwyr yn gyflogedig yn y ffatri sy’n eiddo i gwmni Indiaidd Tata.