Mae’r ymgyrch yn erbyn mwy o bwerau i’r Cynulliad yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i siaradwyr Cymraeg i’w cynrychioli nhw.
Mae mudiad True Wales, a fydd yn ymgyrchu o blaid pleidlais ‘Na’ cyn y refferendwm ar 3 Mawrth, yn chwilio am siaradwr Cymraeg sy’n fodlon gwneud.
Mae’n debyg bod y BBC yn pryderu na fydd yna siaradwyr Cymraeg i ddadlau yn erbyn mwy o bwerau i’r Cynulliad ar S4C a Radio Cymru.
Yn ôl arolwg barn gan gwmni Beaufort Research fis diwethaf roedd 75% o siaradwyr Cymraeg o blaid mwy o bwerau a dim ond 16% yn erbyn.
Dywedodd llefarydd ar ran True Wales wrth bapur newydd y Western Mail nad oedd eu cefnogwyr oedd yn siarad Cymraeg eisiau tynnu sylw at eu hunain.
“Mae gyda ni siaradwyr Cymraeg, ond dydyn nhw ddim eisiau ymddangos ar y teledu a’r radio,” meddai.
“Maen nhw’n teimlo na fydden nhw’n gyffyrddus yn cymryd rhan am eu bod nhw’n byw mewn cymunedau Cymraeg. Maen nhw’n pryderu ynglŷn a’r ymateb, ac rydw i’n deall hynny.
“Fe fyddwn ni’n ceisio cyflwyno ein hachos drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac yn dosbarthu pamffledi yn Gymraeg.”