Mae banc o Brydain wedi dweud nad oes “unrhyw dystiolaeth” bod arlywydd Sudan wedi dwyn £5.8 biliwn gan ei wlad a’i guddio yn Llundain.

Mae’r honiad yn ymddangos ymysg degau o filoedd o negeseuon sydd wedi eu cyhoeddi gan wefan WikiLeaks.

Yn ôl y ddogfen mae prif erlynydd y Llys Troseddau Rhyngwladol yn haeru bod cwmni Lloyds Banking Group “yn dal neu yn gwybod ble mae ei arian”.

Dywedodd llefarydd o lywodraeth Sudan wrth bapur newydd y Guardian – sydd wedi bod yn cyhoeddi deunydd WikiLeaks – bod yr honiad yn “chwerthinllyd”.

Lloyds yn gwadu

Dywedodd Lloyds Banking Group nad oedden nhw’n ymwybodol o unrhyw gysylltiad gyda’r arlywydd Omar Bashir.

“Does dim tystiolaeth sy’n awgrymu unrhyw gysylltiad rhwng Lloyds Banking Group ac Omar Bashir,” meddai llefarydd.

“Polisi’r grŵp ydi cadw at gyfraith pob awdurdodaeth ydym ni’n gweithredu ynddo.”

Yn y neges sy’n manylu ar y drafodaeth, mae un o swyddogion yr Unol Daleithiau yn dweud bod y prif erlynydd, Luis Moreno-Ocamp, yn credu y byddai’r mater yn newid barn pobol Sudan ynglŷn â’u harlywydd.

“Awgrymodd Ocampo y byddai datgelu arian Bashir (crybwyllodd $9 biliwn) yn newid barn pobol Sudan, o feddwl ei fod o’n ‘grwsadydd’, i feddwl ei fod yn lleidr.”

Dywedodd Dr Khalid al-Mubarak, llefarydd ar ran llysgenhadaeth Sudan yn Llundain, nad oedd yr arlywydd yn gallu tynnu arian allan o drysorlys y wlad a’i roi yn ei gyfrif ei hun.