Mae ap newydd ar gyfer yr iPhone yn gallu cyfieithu brawddegau Saesneg a Sbaeneg yn syth drwy lens y camera.
Mae Word Lens, gan gwmni Quest Visial, am ddim i’w lawrlwytho ar hyn o bryd ond mae’r gallu i gyfieithu o Saesneg i Sbaeneg neu i’r gwrthwyneb yn costio tua £3.
Y syniad ydi y bydd pobol sy’n teithio’r byd yn gallu anelu’r ffôn symudol ar unrhyw arwydd ac y bydd y cyfieithiad yn ymddangos ar y sgrin o’u blaen.
Ar hyn o bryd mae Word Lens yn gweithio ar arwyddion neu fwydlenni, ond nid yw’n adnabod llawysgrifen neu ffontiau anarferol.
Dywedodd y cwmni bod ieithoedd eraill yn cael eu datblygu ar gyfer yr App ar hyn o bryd.