Mae’r ymgyrch o blaid newid y drefn bleidleisio yn dweud bod y gefnogaeth yn gryfach yng Nghymru nag yn un rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
Maen nhw wedi dadansoddi arolwg barn sydd wedi ei gyhoeddi gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadau gan ddweud y bydd bron ddwy ran o dair o’r pleidleiswyr yng Nghymru’n cefnogi trefn AV.
O’r bobol oedd yn dweud eu bod yn sicr o bleidleisio, meddai’r Ymgyrch Ie i AV, roedd 61% yng Nghymru’n dweud y bydden nhw’n cefnogi’r drefn newydd yn y refferendwm ar 5 Mai 2011.
Y manylion
Er hynny, sampl o lai na 300 oedd ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr o blith yr holiadur cyfan o fwy na 2,000 o bobol.
Trwy wledydd Prydain, roedd mwyafrif bychan o blaid AV – o 36% i 30% gyda 34% heb fod yn gwybod. Yng Nghymru a de-orllewin Lloegr, y sgôr oedd 43-25-32.
Er mai Llywodraeth y Glymblaid sy’n galw’r refferendwm, roedd mwyafrif cefnogwyr y Ceidwadwyr yn erbyn y system sy’n golygu fod etholwyr yn gosod ymgeiswyr mewn trefn 1,2,3.
Roedd Iestyn Davies, trefnydd yr ymgyrch Ie yn falch o’r canlyniad yng Nghymru: “Mae gan Gymru hanes balch a lliwgar o gefnogi newid democrataidd,” meddai.
Llun: O wefan yr ymgyrch