Mae heddluoedd Cymru yn parhau i rybuddio gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd wrth i broffwydi’r tywydd ddweud y bydd mwy o eira’n disgyn heno.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys y dylai gyrwyr gymryd gofal a paratoi ymlaen llaw cyn teithio heddiw yn dilyn “eira sylweddol” ar draws y canolbarth.

Maen nhw’n dweud bod awdurdodau’n ymdrechu i gadw’r prif ffyrdd ar agor.

Er hynny, mae trafferthion ar lawer o ffyrdd, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, lle mae’r cyngor sir wedi apelio ar i yrwyr aros gartre.

Yr unig gysur yw nad yw hi’n rhewi yn yr ardaloedd rheini ar hyn o bryd, meddai’r heddlu.

Y Gogledd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod eu prif ffyrdd hwythau yn parhau ar agor.

Mae disgwyl y bydd yna oedi mawr ar yr A470 i gyfeiriad y gogledd rhwng Abercynon a Pentrebach oherwydd damwain.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu y dylai gyrrwyr gynllunio ymlaen a gweld beth yw’r amodau cyn dechrau ar unrhyw daith.

Ffyrdd ar gau

Yn ol Traffig Cymru mae’r ffyrdd canlynol ar gau ar hyn o bryd-

A470 Bwlch yr Oerddrws

A470 Abercynon i Bentrebach ( i gyfeiriad y gogledd)

A465 Hirwaun i Gefn Coed

A55 Cyffordd 11 Llandygai

Amodau gyrru gwael

Mae Traffig Cymru yn rhybuddio bod amodau gyrru gwael ar y ffyrdd canlynol-

M4 rhwng cyffyrdd 26 Malpas a 49 Phont Abraham

A48 rhwng Pont Abraham a Cross Hands

A465 Merthyr i’r Fenni

A470 rhwng Coryton ac Abercynon