Mae’r tywydd gaeafol dros nos a heddiw wedi arwain at ohirio nifer o’r gemau oddi am gael eu cynnal y penwythnos yma.
Gêm Ceardydd yn erbyn Burnley brynhawn yfory yw’r mwyaf amlwg i ddioddef o ganlyniad i’r tywydd oer. Bu’n rhaid gohirio’r ornest yn Stadiwm Dinas Caerdydd oherwydd eira trwm.
Mae tair gêm yn Uwch Gynghrair Cymru oedd i fod i gael eu chwarae heno wedi cael eu gohirio o ganlyniad i’r eira trwm, sef-
• Castell-nedd v Lanelli
• Hwlffordd v Port Talbot
• Y Bala v Aberystwyth
Does dim problemau gyda maes y Seintiau Newydd yn Park Hall cyn eu gêm yn erbyn Bangor heno. Ond mae’n bosib na fydd tim Bangor yn gallu cael cyrraedd Croesoswallt drwy’r eira.
Mae ffawd y gêm rhwng y Drenewydd ac Airbus UK yfory yn dibbynu ar safon y cae.
Fe fydd y gêm rhwng Prestatyn a Chaerfyrddin yn Ffordd Bastion yn cael ei gynnal oni bai bod y tywydd yn gwaethygu yno.
Mae disgwyl i’r gêm rhwng Abertawe a Sheffield Utd yn Bramwall Lane cael ei gynnal.
Rygbi
Fe fydd y Scarlets yn hedfan allan i’r Eidal prynhawn yma er mwyn wynebu Treviso yn y Cwpan Heineken yfory.
Mae’r Gweilch wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i’w gêm hwy yn erbyn Munster yn Stadiwm Liberty fynd yn ei blaen hefyd.
“Mae’r system wresogi danddaearol wedi sicrhau bod modd chwarae ar gae Stadiwm Liberty,” medd llefarydd ar ran y clwb.
“Fe gyrhaeddodd awyren Munster Maes Awyr Caerdydd am 1.23pm ac mae camerau Sky Sports yn barod i ddarlledu o’r stadiwm.”.
Ond mae gemau Caerdydd yn erbyn Pontypridd a Quins Caerfyrddin yn erbyn Aberafan yn yr Uwch Gynghrair wedi eu gohirio.
Mae cwpl o gemau Cwpan Prydain ac Iwerddon hefyd wedi eu heffeithio gan y tywydd sef-
• Pontypridd v Birmingham a Solihull
• Llanelli v Nottingham