Mae prif weithredwr dros dro S4C wedi ymosod ar Lywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, mewn llythyr at bapur newydd.

Dywedodd Arwel Ellis Owen nad oedd sylwadau Dafydd Elis-Thomas, sydd wedi bod yn feirniadol iawn o broblemau diweddar y sianel, yn “adlewyrchu barn nifer yn ei blaid ei hun”.

Roedd yn ymateb ar ôl i Dafydd Elis-Thomas alw ar S4C i gael ei diddymu mewn cyfweliad gyda’r Western Mail.

Wrth siarad gyda Golwg 360 yr un diwrnod, beirniadodd Dafydd Elis-Thomas Awdurdod S4C, a dweud na ddylen nhw fod yn rhedeg y sianel.

Mewn llythyr at Western Mail heddiw, dywedodd Arwel Ellis Owen nad oedd Dafydd Elis-Thomas yn “talu sylw i farn miloedd o wylwyr S4C ac wedi methu a deall bod S4C yn darlledu ar draws sawl llwyfan”.

“Yn ogystal â hynny, mae ei sylwadau’n brifo staff S4C, sydd yn ei chael hi’n anodd deall pam fod yr Arglwydd Elis-Thomas yn ochri gyda beirniaid eraill y sianel, a chyfrannu at y sylwadau maleisus sydd wedi eu hanelu at S4C dros y misoedd diwethaf.

“Rydym ni’n sianel deledu sy’n croesawu dadl ynglŷn â’n dyfodol, ond nid yw ei sylwadau difeddwl a niweidiol yn cyfrannu at ddadl gall.”