Mae’r eira wedi troi’n destun dadlau gwleidyddol wrth i’r Ceidwadwyr gyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o fethu â chadw prif ffyrdd Cymru’n glir.
Roedd digon o rybudd wedi bod, gyda darogan tywydd gwael ers dechrau’r wythnos, meddai llefarydd y Ceidwadwyr, yr AC Darren Millar.
Doedd y Llywodraeth ddim wedi dysgu gwersi’r llynedd, meddai, gan alw eto am fwy o gyd-drefnu ar y gwaith clirio.
“Ddylai gyrwyr Cymru ddim gorfod diodde’r math yma o anhwylustod,” meddai.”Mae’n hanfodol cadw’r ffyrdd yn glir ar gyfer y gwasanaethau achub.”
Roedd y Ceidwadwyr wedi galw “ers misoedd” am well trefn ac am i’r Llywodraeth roi cyngor statudol i’r awdurdodau lleol ynglŷn â rhoi halen ar y ffyrdd.
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi dweud ei fod yn barod i gymryd y cyfrifoldeb o gyd-drefnu’r gwaith.